cyfansoddwr a aned yn 1841 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfansoddwr a cherddor Cymreig oedd Joseph Parry (21 Mai 1841 — 17 Chwefror 1903). Ei enw yng Ngorsedd y Beirdd oedd Pencerdd America; fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865.
Joseph Parry | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mai 1841 Bwthyn Joseph Parry, Merthyr Tudful |
Bu farw | 17 Chwefror 1903 Penarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Cyflogwr | |
Arddull | opera |
Plant | Joseph Haydn Parry |
Wedi gweithio mewn pwll glo ac yng ngwaith haearn Cyfarthfa, ymfudodd gyda'i deulu yn 1854 i Pensylfania, UDA, lle gweithiodd mewn melin haearn. Cafodd flas ar astudio cerddoriaeth yno hefyd gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Cafodd ysgoloriaeth i'r Adran Gerdd Frenhinol yn Llundain a derbyniodd radd MusB yn 1871 gan Brifysgol Caergrawnt. Yn wir, yn 1874 cafodd ddyrchafiad i fod yn Athro cerdd cynta'r coleg. Yna dychwelodd i Gymru i fod yn gyfrifol am Adran gerdd Prifysgol Caerdydd.
Fe'i ganed ym 4 Chapel Row, Merthyr Tudful.[1] Ysgrifennodd lawer o ganeuon enwog, ac yn eu plith y mae: 'Myfanwy', 'Hywel a Blodwen' a'r emyn-dôn 'Aberystwyth' a berfformiwyd gyntaf yn Stryd Portland, Aberystwyth. Cyfansoddodd yr opera gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Blodwen. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog iawn; yn ystod ei oes ysgrifennodd chwech o operâu.
Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg yn 1903 a'i gladdu yn Eglwys Sant Awstin ym Mhenarth.
Ysgrifennodd Jack Jones y llyfr Off to Philadelphia in the Morning yn seiliedig ar hanes Joseph Parry.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.