From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur straeon byrion a nofelydd yn yr iaith Sbaeneg o Ecwador oedd José de la Cuadra (3 Medi 1903 – 27 Chwefror 1941) a oedd yn un o lenorion Grŵp Guayaquil.
Ganed yn Guayaquil, yn Nhalaith Guayas, Ecwador. Mynychodd Uwchysgol Vicente Rocafuerte cyn dechrau astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Guayaquil ym 1921. Bu'n hynod o weithgar mewn mudiadau myfyrwyr, ac ym 1925 sefydlodd yr "Universidad Popular" er cynorthwyo myfyrwyr tlawd. Derbyniodd ei radd baglor ym 1927, ac astudiodd hefyd am ddoethuriaeth yn y gyfraith. Priododd ag Inés Múñez del Arco Andrade ym 1928. Gweithiodd yn athro mewn uwchysgol ac yn y brifysgol, ac yn was sifil.[1]
Megis awduron eraill Grŵp Guayaquil, ysgrifennai José de la Cuedra am fywydau'r montuvio (y bobl o dras gymysg frodorol, Affricanaidd, ac Ewropeaidd) o ranbarth arfordir Ecwador, a hynny gydag agweddau o realaeth gymdeithasol. Canolbwyntia gwaith cynnar de la Cuadra ar ddyheadau a hiraeth ymhlith y fân-fwrdeisiaeth yn Guayaquil. Cofir yn bennaf am ei straeon byrion, a gyhoeddwyd mewn casgliadau megis Repisas (1931) a Horno (1932). Ei nofel enwocaf yw Los Sangurimas (1934), o genre ffuglen y montuvios, a ellir ei hystyried yn esiampl gynnar o realaeth hudol. Mae ei waith diweddaraf yn ymwneud â phobl yr ymylon: y montuvios, tlodion y ddinas, a'r bobloedd Amerindiaidd. Yn ogystal â'i ffuglen, ysgrifennodd de la Cuadra ysgrifau ar bynciau cymdeithasegol, er enghraifft ei draethawd El montuvio ecuatoriano (1937), a bywgraffiadau.
Penodwyd de la Cuadra yn athro'r gyfraith benyd ym Mhrifysgol Guayaquil ym 1937, a gwasanaethodd yn swydd Ysgrifennydd Cyffredinol dros Weinyddiaeth Gyhoeddus ac yn gonswl i'r Ariannin ac i Wrwgwái.[1] Bu farw José de la Cuadra yn ei ddinas enedigol, Guayaquil, yn 37 oed o waedlif ar yr ymennydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.