![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/Rulfo_por_Lyon.jpg/640px-Rulfo_por_Lyon.jpg&w=640&q=50)
Juan Rulfo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd, awdur straeon byrion, a sgriptiwr Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Nepomuceno Carlos Pérez Rulfo Vizcaíno (16 Mai 1917 – 7 Ionawr 1986) a ystyrir yn un o lenorion gwychaf America Ladin yn yr 20g, er iddo ond gyhoeddi dau lyfr yn ystod ei oes: y gyfrol o straeon El llano en llamas (1953) a'r nofel Pedro Páramo (1955).
Juan Rulfo | |
---|---|
![]() Juan Rulfo | |
Ganwyd | Juan Nepomuceno Carlos Pérez Rulfo Vizcaíno ![]() 16 Mai 1917 ![]() Sayula ![]() |
Bu farw | 7 Ionawr 1986 ![]() Dinas Mecsico ![]() |
Dinasyddiaeth | Mecsico ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, sgriptiwr, ffotograffydd, nofelydd ![]() |
Adnabyddus am | The Burning Plain and Other Stories, Pedro Páramo ![]() |
Prif ddylanwad | William Faulkner ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Xavier Villaurrutia, Gwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, Gwobr Alfaguara, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Cymrodoriaeth Guggenheim ![]() |
Gwefan | http://www.elem.mx/autor/datos/970 ![]() |
Ganed yn Jalisco i deulu o dirfeddianwyr cefnog. Yn ystod ei blentyndod yng nghefn gwlad Gorllewin Mecsico roedd yn dyst i Ryfel Cristero (1926–29). Collodd ei deulu y drwch o'i ffortiwn o ganlyniad i drais a therfysg y cyfnod. Symudodd Rulfo a'i deulu i Ddinas Mecsico ym 1933 a gweithiodd Juan i gwmni rwber. Yn ddiweddarach cafodd waith yn ysgrifennu sgriptiau ffilm. Roedd yn hoff iawn o waith y nofelydd Americanaidd William Faulkner.[1]
Ysgrifennodd sawl stori fer i'r cylchgrawn llenyddol Pan, a chawsant eu casglu, gyda straeon eraill, yn El llano en llamas. Maent yn ymwneud â thrais ac anfoesoldeb yng nghefn gwlad gan ddefnyddio technegau traethiadol newydd megis llif ymwybod, ôl-fflachiau, a safbwyntiau cyfnewidiol. Enghraifft cynnar o'r nofel realaidd hudol yw Pedro Páramo, sydd yn archwilio cwymp cacique (penadur) mewn byd uffernol a drigiannir gan y meirw.
Penodwyd yn gyfarwyddwr adran olygyddol y Sefydliad Cenedlaethol dros Astudiaethau Brodorol, a bu'n cynghori awduron ifainc yng Nghanolfan Llenorion Mecsico. Bu farw Juan Rulfo yn Ninas Mecsico yn 68 oed.[1]