Kylie Jenner
actores a aned yn 1997 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Kylie Kristen Jenner (ganwyd 10 Awst 1997)[1] yn gymdeithaswraig Americanaidd, yn bersonoliaeth cyfryngau, ac yn fenyw fusnes nodedig. Serennodd yng nghyfres deledu realiti Keeping Up with the Kardashians ar E! Entertainment Television o 2007 i 2021 ac yna cyfres deledu realiti Hulu The Kardashians o 2022. Hi yw sylfaenydd a pherchennog y cwmni cosmetig Kylie Cosmetics a hi yw'r pumed ar y rhestr o bobl gyda'r mwyaf o ddilynwyr ar Instagram.
Kylie Jenner | |
---|---|
Ganwyd | Kylie Kristen Jenner 10 Awst 1997 Los Angeles |
Man preswyl | Hidden Hills, Holmby Hills, Calabasas |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, person busnes, dylunydd ffasiwn, enwog, dylanwadwr, entrepreneur, casglwr |
Taldra | 1.68 metr |
Tad | Caitlyn Jenner |
Mam | Kris Jenner |
Partner | Tyga, Travis Scott |
Plant | Veronica, Aire Webster |
Llinach | Kardashian-Jenner family |
Gwefan | https://kyliejenner.com |
llofnod | |
Yn 2012, pan oedd hi'n 14 oed, cydweithiodd Jenner â'r brand dillad PacSun, ynghyd â'i chwaer Kendall, a chreu casgliad o ddillad, Kendall & Kylie. Yn 2015, lansiodd gasgliad o golur ei hun o'r enw Kylie Lip Kits, a ailenwyd yn Kylie Cosmetics y flwyddyn ganlynol.[2]
Mae Jenner wedi bod yn ffigwr dylanwadol mewn diwylliant ers canol y 2010au. Yn 2014 a 2015, rhestrodd cylchgrawn Time y chwiorydd Jenner ar eu rhestr o'r arddegwyr mwyaf dylanwadol yn y byd, gan nodi eu dylanwad sylweddol ymhlith ieuenctid ar gyfryngau cymdeithasol.[3] Yn 2017, gosodwyd Jenner ar restr Forbes Celebrity 100, sy'n golygu mai hi yw'r person ieuengaf i gael sylw ar y rhestr. Roedd Jenner yn serennu ar ei chyfres bersonol, Life of Kylie, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn 2017.[4]
Mae cyfoeth Jenner a'i sylw yn y cylchgrawn Forbes wedi bod yn destun dadleuol yn y gorffennol. Yn 2019, amcangyfrifodd y cylchgrawn werth net Jenner yn $1 biliwn UD a'i galw'n hunan-biliwnydd ieuengaf y byd yn 21 oed;[5][6] mae'r awgrym iddi wneud popeth ar ei liwt ei hun yn ddadleuol.[7][8] Ym Mai 2020, rhyddhaodd Forbes ddatganiad yn cyhuddo Jenner o ffugio dogfennau treth fel y byddai'n ymddangos fel biliwnydd.[9]