Kylie Minogue
actores a chyfansoddwr a aned yn 1968 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Kylie Ann Minogue, OBE (ganed 28 Mai 1968) yn gantores ac actores o Awstralia. Daeth yn enwog yn ystod y 1980au o ganlyniad i'r opera sebon Neighbours ac wedyn symudodd i fyd canu pop ym 1987.
Kylie Minogue | |
---|---|
Ganwyd | Kylie Ann Minogue 28 Mai 1968 Melbourne |
Label recordio | EMI, Parlophone Records, Mushroom Records, Deconstruction Records, Capitol Records, Astralwerks, Warner Music Group, Geffen Records, Festival Records, Warner Bros. Records, Bertelsmann Music Group, Warner Music Australia, PWL, Warner Records Inc., BMG Rights Management |
Dinasyddiaeth | Awstralia, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, canwr-gyfansoddwr, actor, entrepreneur, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm |
Adnabyddus am | Neighbours, I Should Be So Lucky, Locomotion / Glad to be Alive |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, pop dawns, nu-disco, electropop, cerddoriaeth electronig, art pop, cyfoes R&B, pop bubblegum |
Math o lais | soprano |
Taldra | 1.52 metr |
Pwysau | 102 pwys, 46.2 cilogram |
Priod | Joshua Sasse |
Partner | Olivier Martinez, Andrés Velencoso, Clément Sibony |
Gwobr/au | chevalier des Arts et des Lettres, OBE, Medal Canmlwyddiant, Gold Logie Award for Most Popular Personality on Australian Television, BRIT Award for International Female Solo Artist, BRIT Award for International Female Solo Artist, Trysor byw genedlaethol Awstraliaid, Gwobrwyon Amadeus Awstria, Swyddogion Urdd Awstralia, Urdd Awstralia, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Gwefan | https://www.kylie.com/ |
llofnod | |
Cafodd gytundeb recordiau gyda'r cyfansoddwyr a chynhyrchwyr Prydeinig Stock, Aitken & Waterman ym 1988 a chafodd nifer fawr o ganeuon llwyddiannus ledled y byd. Lleihaodd ei phoblogrwydd ar ddechrau'r 1990au gan beri iddi adael Stock, Aitken & Waterman ym 1992. O ganol tan ddiwedd y 1990au, ymbellhaodd Minogue ei hun o'i gweithiau cynharaf gan geisio sefydlu'i hun fel cyfansoddwraig a pherfformwraig annibynnol. Cafodd eu gweithiau gyhoeddusrwydd mawr ond ni lwyddodd ei recordiau i ddenu cynulleidfa sylweddol ac o ganlyniad, gwelwyd y gwerthiant isaf o recordiau yn ei gyrfa. Ail-greodd ei hun gan ad-ennill ei phoblogrwydd yn y flwyddyn 2000 gan ddod yn adnabyddus am ei fideos cerddorol cywrain a'i pherfformiadau byw drudfawr.
Yn Awstralia ac Ewrop, ystyrir Minogue fel un o enwogion a symbolau rhywiol mwyaf adnabyddus ei chenhedlaeth. Wedi iddi gael ei diystyru yn gynnar iawn yn ei gyrfa gerddorol gan nifer o feirniaid yn Awstralia, mae bellach yn cael ei chydnabod am ei llwyddiannau niferus. Dychwelodd Minogue i recordio a pherfformio yn hwyrach yn y 2000au wedi cyfnod o salwch, a derbyniodd OBE yn y flwyddyn 2008 am ei gwasanaeth i gerddoriaeth. Mae Minogue wedi gwerthu dros 60 miliwn o recordiau.[1]