From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae lladrad data'n digwydd pan fo person neu bersonau'n dwyn gwybodaeth ddigidol (neu 'ddata'), yn aml pan fo ceidwad y gweinydd neu'r wefan yn esgeulus. Mae'n digwydd ar adegau oddi fewn i swyddfa'r cwmni neu'r sefydliad gan y staff eu hunain sydd â mynediad i ddata'r cwmni e.e. drwy ddefnyddio co bach, iPod, camera digidol, ffôn neu drwy i swyddog y cwmni ddanfon ebost iddo ef ei hun, gyda'r data fel atodiad. Gall y wybodaeth sy'n cael ei lladrata gynnwys fanylion personol a chyfrinachol iawn, fel cyfeiriadau, dyddiadau geni, cyfrineiriau cwsmeriaid y cwmni neu'r sefydliad.
Gall y cymelliad dros ladrata'r data fod yn amrywiol: dichell neu gasineb at y cwmni neu er mwyn elwa'n ariannol drwy werthu'r data er enghraifft neu er mwyn canu cloch, sef y weithred o ddatgelu'n gyhoeddus camymddygiad o fewn sefydliad. Mae'r weithred o ladrata data'n cael ei ystyried yn drosedd, er bod rhai cwmniau a sefydliadau'n honi bod canu cloch yn weithred bositif,[1] ac mewn rhai amgylchiadau mae'r gyfraith yn amddiffyn y canwr cloch.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.