![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b3/Taxus_baccata_%2528coed_yw%2529_ym_mynwent_Eglwys_Sant_Tyrnog%252C_Llandyrnog%252C_Sir_Ddinbych_%2528yew_trees_in_Wales%2529_09.jpg/640px-Taxus_baccata_%2528coed_yw%2529_ym_mynwent_Eglwys_Sant_Tyrnog%252C_Llandyrnog%252C_Sir_Ddinbych_%2528yew_trees_in_Wales%2529_09.jpg&w=640&q=50)
Llandyrnog
pentref yn Sir Ddinbych / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandyrnog( ynganiad ). Saif ar y ffordd B5429, tua tair milltir i'r dwyrain o dref Dinbych a milltir i'r dwyrain o Afon Clwyd. Y prif gyflogwr yn y pentref yw Hufenfa Llandyrnog, sy'n cynhyrchu caws. I'r dwyrain o'r pentref mae bryngaer Moel Arthur. Ceir yma ddwy dafarn, y Golden Lion a'r Ceffyl Gwyn, a siop. Ceir yma hefyd ar gyrion y pentref ffatri laeth a chaws enfawr.
![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,096 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,803.56 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.175°N 3.337°W ![]() |
Cod SYG | W04000161 ![]() |
Cod OS | SJ107650 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | James Davies (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae'r eglwys leol yn un o bedair eglwys ganoloesol yr ardal. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Teyrnog neu Tyrnog; credir fod yr adeilad presennol yn dyddio o'r 15g, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol iawn. Adferwyd yr adeilad gan y pensaer Fictoraidd Eden Nesfield rhwng 1876 a 1878. Ar ochr ddwyreniol yr eglwys mae ffenestr liw nodedig.
Bu yma ysgol ers 1840 ac yn 1856 roedd 120 o blant ar y gofrestr.[1] Yn 2009 roedd 27 o blant.[2]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/e/eb/Llandyrnog.jpg/640px-Llandyrnog.jpg)