![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e0/The_Bush_Inn_-_geograph.org.uk_-_463918.jpg/640px-The_Bush_Inn_-_geograph.org.uk_-_463918.jpg&w=640&q=50)
Llandysilio, Sir Benfro
pentref yn Sir Benfro / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Gorllewin Llandysilio, Sir Benfro, Cymru, yw Llandysilio[1] neu Llandysilio-yn-Nyfed (Seisnigiad: Llandissilio).[2] Saif ar briffordd yr A478 rhwng Arberth a Crymych, ac ychydig i'r gogledd o bentref Clunderwen. Enwir y pentref (a'r plwyf eglwysig) ar ôl Sant Tysilio. Yn y plwyf hwn roedd Maenor Silian, ac roedd y pentref oddi fewn i Gantref Gwarthaf, un o saith gantref teyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol. Yn 1563 roedd yma 64 o gartrefi ac yn 1981 roedd yma boblogaeth o 458.[3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/aa/St_Tysilio%27s_Church_-_geograph.org.uk_-_473162.jpg/320px-St_Tysilio%27s_Church_-_geograph.org.uk_-_473162.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/87/Blaenconin_Baptist_Chapel_-_geograph.org.uk_-_473128.jpg/320px-Blaenconin_Baptist_Chapel_-_geograph.org.uk_-_473128.jpg)
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.86282°N 4.73276°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
![]() | |
- Am lleoedd eraill o'r enw "Llandysilio", gweler Llandysilio (gwahaniaethu).
Yn ôl yr hynafiaethydd George Owen, ar ddechrau'r 16g roedd ffin ieithyddol Sir Benfro, neu'r llinell Landsker, yn rhedeg trwy Llandysilio. Yn 1891 roedd 97% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg (a 75% y rheiny'n siarad y Gymraeg yn unig). O fewn deg mlynedd roedd canran y rhai hynny a siaradai Gymraeg yn unig wedi syrthio i 29%.[4]
Yn Ionawr 1915 daeth Waldo Williams i fyw yma, gyda'i dad yn brifathro. Tri mis ar ôl symud yno bu farw ei chwaer fach Morfudd.[5] Flynyddoedd yn ddiweddarach, ysgrifennodd Waldo soned i'r pentref, a orffenai gyda'r geiriau:
- Gwelem yn glaerwyn iach...
- Dysilio alltud na chwenychai gledd
- Ym Meifod gynt, rhag gorfod tynnu cledd.
Mae'r cerflunydd Cymreig Gideon Petersen (g. 1971) yn byw yma.