Llaneugrad
gymuned yn y sir Gymreig Môn, yng Nghymru, a leolir ar arfordir gogledd orllewin y sir / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned a phlwyf eglwysig ar yr arfordir yn nwyrain Ynys Môn yw Llaneugrad. Saif rhwng Moelfre a Benllech, ac mae'n cynnwys pentref Marianglas a bae Traeth Bychan.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 254 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.32637°N 4.276821°W |
Cod SYG | W04000016 |
Cod OS | SH4846083467 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
Cau
Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 12g, i Sant Eugrad. Claddwyd nifer o'r rhai a foddodd yn llongddrylliad y Royal Charter yn y fynwent. Bu trychineb forwrol arall ger Traeth Bychan yn 1939, pan fethodd y llong danfor Thetis a dychwelyd i'r wyneb.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 273 ac mae'r boblogaeth heddiw yn 254[1].