Llangatwg, Castell-nedd Port Talbot
pentref ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Llangatwg (Saesneg: Cadoxton, neu yn llawn Cadoxton-juxta-Neath). Saif gerllaw tref Castell-nedd, a ger pentrefi Cil-ffriw a Bryncoch. Mae'r boblogaeth tua 1,500.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.671°N 3.808°W |
Cod OS | SS755985 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au | Christina Rees (Llafur) |
Cau
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llangatwg.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Cadog neu Catwg. Ceir ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yma, ac ar un adeg roedd bragdy, sydd yn awr wedi cau. Mae Clwb Golff Castell-nedd yma hefyd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[2]