![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2a/Church_of_St_Cwrdaf%252C_Llanwrda_-_geograph.org.uk_-_2493456.jpg/640px-Church_of_St_Cwrdaf%252C_Llanwrda_-_geograph.org.uk_-_2493456.jpg&w=640&q=50)
Llanwrda
pentref yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanwrda. Saif y pentref ger cyffordd y briffordd A40 a'r A482, tua hanner y ffordd rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, ger glan Afon Dulais, sy'n ymuno ag Afon Tywi ychydig i'r de-ddwyrain o'r pentref. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Calon Cymru.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 514 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,317.6 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.968°N 3.874°W ![]() |
Cod SYG | W04000543 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Cau
Heblaw pentref Llanwrda ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Porth-y-rhyd. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 513 gyda 66.47% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir cymuned Llanwrda yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]