From Wikipedia, the free encyclopedia
Pryfyn bach yw'r lleuen (lluosog: llau neu ) a cheir dros 3,000 gwahanol fath ohonyn nhw. Er mai pryfaid ydyn nhw, tydyn nhw ddim yn medru hedfan. Mae tri math wedi eu cofrestru fel 'Asiant cario Afiechydon Dynol'. Ectoparaseit ydyn nhw sy'n hoff iawn o waed mamaliaid. Er hyn tydyn nhw ddim i'w gweld ar Monotremes (y platypws a'r echidnas) na'r ystlum, y morfil, dolffiniaid y llamhidydd na'r pangolin.
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | urdd, infra-urdd |
Rhiant dacson | Troctomorpha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae llau pen yn bryfed bychain o faint pen pin – 2–4 mm o hyd (maint hedyn sesame). Maen nhw'n bryfed brown llwydaidd, heb adenydd ac maen nhw'n byw drwy sugno gwaed o groen pen yr unigolyn. Mae eu hwyau'n smotiau gwyn a elwir yn nedd ac maen nhw wedi'u gludo wrth waelod y gwallt. Mae'r wyau'n cymryd 10 diwrnod i ddeor ac aeddfedu, a gallant atgynhyrchu’n gyflym, 10 i 14 diwrnod ar ôl deor. Bydd eu niferodd yn tyfu'n gyflym os na chânt eu trin. Mae llau pen yn gyffredin mewn plant rhwng 4 ac 11 oed o ganlyniad i gysylltiad agos yn yr ysgol. Gall unrhyw un gyda gwallt byr neu hir ddal llau pen.
Mae trosglwyddo'n digwydd drwy gysylltiad agos pen â phen rhwng pobl. Mae llau ddim ond yn para'n fyw am ychydig funudau pan fyddant i ffwrdd oddi wrth ben dynol, ac ni chânt eu cario gan anifeiliaid anwes.
Y prif symptom yw cosi, yn enwedig y tu ôl i'r clustiau neu ar gefn y gwddf. Gall crafu parhaus beri i'r croen dorri, gan ganiatáu i heintiau eilaidd ddatblygu. Fodd bynnag gellir gweld arwyddion pla cyn i unrhyw symptomau ddatblygu – nedd yn y gwallt, ar flew a ddiosgwyd neu gribau; gobenyddion yn dangos bryntni anarferol o ganlyniad i dail llau. Gwneir diagnosis trwy gadarnhad gweledol o'r pla.[1]
Ceir dwy driniaeth bosibl:
Mae trwythau a siampŵau pryfladdol dros y cownter fel rheol yn cynnwys un o'r pryfleiddiaid canlynol dan amrywiol enwau:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.