Ystlum
urdd o famaliaid sy'n hedfan From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mamaliaid sy'n gallu hedfan yw ystlumod (Chiroptera). Mae'r rhan fwyaf o ystlumod yn bwyta pryfed; mae rhywogaethau eraill yn bwydo ar ffrwythau, neithdar neu bysgod. Anifail nosol ydyw fel rheol. Mae'r ystlumod fampir o Dde America yn yfed gwaed. Ceir dros 900 o rywogaethau yn y byd, a cheir 16 rhywogaeth yn rheolaidd ym Mhrydain.
Remove ads
Remove ads
Cymru
O'r 18 rhywogaeth o'r mamaliaid hedegog hyn ym Mhrydain cofnodwyd 15 ohonynt yng Nghymru[1] yn cynnwys:
- Ystlum adain lydan (Eptesicus serotinus)
- Ystlum barfog (Myotis mystacinus)
- Ystlum Bechstein (Myotis bechsteinii)
- Ystlum Brandt (Myotis brandtii)
- Ystlum du (Barbastella barbastellus)
- Ystlum y dŵr (Myotis daubentonii)
- Ystlum hirglust (Plecotus auritus)
- Ystlum hirglust llwyd (Plecotus austriacus)
- Ystlum Leisler (Nyctalus leisleri)
- Ystlum lleiaf (Pipistrelle pipistrellus a Pipistrellus pygmaeus – dwy rywogaeth ar wahân)
- Ystlum mawr (Nyctalus noctula)
- Ystlum Natterer (Myotis nattereri)
- Ystlum pedol mwyaf (Rhinolophus ferrumequinum)
- Ystlum pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros)
Mae Cymru, felly, yn gartref i rai o'r ystlumod mwyaf prin gwledydd Prydain: yr ystlum pedol mwyaf, yr ystlum pedol lleiaf a'r ystlum du, sy'n rhywogaethau a warchodir gan ddeddfau Ewropeaidd. Mae 10 safle yng Nghymru wedi cael eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig fel rhan o rwydwaith 'Natura 2000' i ddiogelu cynefinoedd yr ystlumod anghyffredin hyn, a rheolir y cynefinoedd er mwyn amddiffyn y rhywogaethau gwahanol.
Yr ystlym lleiaf a'r hirglust yw'r mwyaf cyffredin ac yn ddibynnol iawn ar adeiladau i glwydo ynddynt. Ystlymod pedol yn brin iawn, a'u cadarnleoedd Ewropeaidd yn ogystal â Phrydeinig yng Nghymru a'r Gororau. Oherwydd i ystlymod yn gyffredinol brinhau yn arw yn ystod yr 20g maent oll dan warchodaeth gyfreithiol erbyn hyn.
Coelion cefn gwlad
Yng Nghymru ystyrid gweld ystlymod yn arwydd o lwc dda a phriodas cyn pen y flwyddyn, ond yn anlwcus yn rhai ardaloedd os ehedent o gylch y pen. Roedd coel gyffredin - ond di-sail - y buasent yn mynd yn sownd yng ngwallt person, neu eu bod yn arwydd o dywydd braf os hedfan yn gynnar gyda'r nos.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads