![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9c/Whimsical_Statue%252C_Swansea_Marina_-_geograph.org.uk_-_1483186.jpg/640px-Whimsical_Statue%252C_Swansea_Marina_-_geograph.org.uk_-_1483186.jpg&w=640&q=50)
Llenyddiaeth Saesneg Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Term llenyddol yw Llenyddiaeth Saesneg Cymru (neu lenyddiaeth Eingl-Gymreig) - a adnabyddir mewn Saesneg naill ai fel Anglo-Welsh Writing neu Welsh Writing in English sy'n disgrifio awduron a aned yng Nghymru, neu gyda chysylltiadau Cymreig, ond sy'n sgwennu yn Saesneg. Er bod gan Gymru boblogaeth Saesneg eu hiaith bur sylweddol cyn yr 20g, a rhai ohonynt yn ysgrifenwyr o fri, er enghraifft George Herbert (1593-1633), ni ystyriwyd llenyddiaeth Saesneg Cymru fel math o ysgrifennu ar wahân i lenyddiaeth Saesneg neu lenyddiaeth yn yr iaith Gymraeg tan i fwy o ysgrifenwyr yn yr 20g ddechrau ysgrifennu pethau mewn Saesneg oedd yn dal i fod yn Gymreig eu safbwynt neu am brofiadau Cymreig.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9c/Whimsical_Statue%2C_Swansea_Marina_-_geograph.org.uk_-_1483186.jpg/320px-Whimsical_Statue%2C_Swansea_Marina_-_geograph.org.uk_-_1483186.jpg)
Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifenwyr Llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwog Dylan Thomas ac R. S. Thomas.
Y cyntaf i ddefnyddio'r term "Eingl-Gymreig" oedd H. Idris Bell yn 1922.[1]