From Wikipedia, the free encyclopedia
Eitemau plastig bychain sy'n cael eu defnyddio i ddynwared llygaid ar waith crefft yw llygaid siglog. Mae llygaid siglog fel arfer wedi'u gwneud o blastig neu gerdyn gwyn sydd wedi'i orchuddio â chragen glir o blastig caled ag ynddi ddisg blastig, ddu. Mae'r cyfuniad o gylch du ar gylch gwyn mwy yn debyg i sglera a channwyll llygad. Gall y ddisg ddu fewnol symud yn rhydd o fewn i'r gragen glir, ac mae hynny'n gwneud i'r llygad edrych fel petai'n symud pan mae'n cael ei gogwyddo neu ei hysgwyd.
Daw'r cregyn plastig mewn sawl maint, o 3/16 modfedd (4.8mm) i dros 24 modfedd (610mm) mewn diamedr a cheir sawl lliw gan gynnwys: pinc, glas, melyn, coch a gwyrdd. Mae'r llygaid siglog yn cael eu defnyddio mewn amryw o wahanol fathau o brosiectau celf a chrefft ac yn gallu cael eu glynu i lawer o wahanol wrthrychau er mwyn gwneud iddynt edrych yn ddoniol. Mae hynny'n personoli'r gwrthrych, ac yn aml yn creu digrifwch.
Defnyddiwyd y term Saesneg am lygaid siglog, sef 'googly eyes', i gyfeirio at fath o ddoli ar ddechrau'r 20g. Mae ymchwilwyr wedi awgrymu bod y term yn tarddu o'r Almaeneg "Guck Augen" sy'n golygu llygaid yn edrych i un ochr.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.