Llygredd aer yn y cartref
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae llygredd aer cartrefi (Household air polution; HAP) yn fath sylweddol o lygredd aer dan do, yn bennaf yn ymwneud â dulliau coginio a gwresogi a ddefnyddir mewn gwledydd sy'n datblygu.[1] Gan fod llawer o'r coginio yn cael ei wneud gyda thanwydd biomas ee pren neu goed tân, siarcol, tail sych, eithin a gweddillion cnwd, dan do mewn cegin sydd heb ei hwyru'n priodol, mae miliynau o bobl, menywod a phlant yn bennaf, yn wynebu risgiau iechyd difrifol. Yn gyfangwbwl, mae tua thri biliwn o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael eu heffeithio gan y broblem hon. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod llygredd sy'n gysylltiedig â choginio yn achosi 3.8 miliwn o farwolaethau blynyddol.[2] Amcangyfrifodd yr astudiaeth Baich Clefydau Byd-eang (Global Burden of Disease) fod cyfanswm y marwolaethau yn 2017 yn 1.6 miliwn.[3] Mae cysylltiad agos rhwng y broblem a thlodi ynni a choginio.
Mae mwg o hylosgi tanwydd solet yn y cartref traddodiadol yn aml yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion hylosgi anghyflawn, gan gynnwys deunydd gronynnol mân a bras (ee, PM 2.5, PM 10), carbon monocsid (CO), nitrogen deuocsid (NO 2), sylffwr deuocsid (SO 2), ac amrywiaeth o lygryddion aer organig.
Mae atebion sy'n seiliedig ar dechnoleg i'r broblem hon yn tueddu i ganolbwyntio ar gyflenwad gwell o ffyrnau (podai) coginio er y gall newidiad ymddygiad fod yn bwysig hefyd.