Llys Tre-tŵr
Llys amddiffynol y teulu Vaughana leolir yn ardal Brycheiniog, de Powys. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llys amddiffynnol y teuluoedd Picard a Vaughan oedd Tre-tŵr (neu 'Tretŵr), teuluoedd cyfoethog a dylanwadol Cymreig. Fe'i lleolir ger pentref bychan Tretŵr yn ardal Brycheiniog, de Powys. Mae'r llys a grëwyd gan Roger Fychan, Tre-tŵr yng nghaanol y 15g yn hynod foethus ac yn adlewyrchu statws pwysig y teuluoedd, fel bonedd Cymreig. Mae bellach yn amgueddfa.
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Math | adeilad amgueddfa, maenordy wedi'i amddiffyn |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tretŵr, Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 87 metr |
Cyfesurynnau | 51.8833°N 3.1843°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Cau
Pan adawodd teulu Vaughan yn y 18g daeth Llys Tre-tŵr yn fferm weithiol. Cofrestrwyd y llys a'r castell, sydd o fewn tafliad carreg i'w gilydd, yn Radd I gan Cadw.[1]