Tretŵr
pentref ym Mhowys, Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin, Powys, Cymru, yw Tretŵr[1] (Saesneg: Tretower).[2] Saif yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir ger cyffordd yr A470 a'r A479, tua hanner ffordd rhwng Aberhonddu i'r gorllewin a'r Fenni i'r de-ddwyrain.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8833°N 3.1833°W |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au | Fay Jones (Ceidwadwyr) |
Cau
Llifa Afon Rhiaingoll drwy'r pentref ac mae llethrau'r Mynydd Du yn codi i'r dwyrain. Gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Tretŵr yn adnabyddus yn bennaf am Llys a Chastell Tre-tŵr a godwyd yn niwedd yr 11g gan Picard, milwr Anglo-Normanaidd ac yna gan y Fychaniaid. Cofnodwyd yr enw'n gyntaf yn 1463 (Trevetour).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]