Llywodraethiaeth Hebron
Llywodraethiaeth o fewn i Awdurdod Palesteina / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Llywodraethiaeth Hebron (Arabeg: محافظة الخليل Muḥāfaẓat al-Ḫalīl; Hebraeg: נפת חברון Nafat Ħevron) yn ardal weinyddol ym Awdurdod Palesteina yn y Lan Orllewinol ddeheuol. Mae'n un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Label brodorol ...
Enghraifft o'r canlynol | llywodraethiaethau Palesteina |
---|---|
Label brodorol | محافظة الخليل |
Poblogaeth | 711,223 |
Gwlad | Palesteina |
Enw brodorol | محافظة الخليل |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | y Lan Orllewinol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Arwynebedd tir y llywodraethiaeth yw 1,060 cilomedr sgwâr (410 metr sgwâr) a'i phoblogaeth yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina yng nghanol blwyddyn 2019 oedd 1,004,510. Mae hyn yn golygu mai Llywodraethiaeth Hebron yw'r fwyaf o 16 llywodraethiaeth o ran boblogaeth ac arwynebedd tir yn nhiriogaethau Palestina.[1] Dinas Hebron yw prifddinas ardal neu muhfaza (sedd) y llywodraethiaeth.
Yn ystod chwe mis cyntaf yr Intifada Cyntaf Palesteina lladdwyd 42 o bobl yn Llywodraethiaeth Hebron gan fyddin Israel.[2]