From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfreithiwr a barnwr o'r Unol Daleithiau oedd Louis Dembitz Brandeis (13 Tachwedd 1856 – 5 Hydref 1941) a fu'n un o ustusiaid Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau o 1916 i 1939.
Louis Brandeis | |
---|---|
Ganwyd | 13 Tachwedd 1856 Louisville |
Bu farw | 5 Hydref 1941 Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, cyfreithiwr |
Swydd | Associate Justice of the Supreme Court of the United States |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Alice Goldmark Brandeis |
Ganed yn Louisville, Kentucky, i fewnfudwyr Iddewig o Brag. Mynychodd yr ysgolion cyhoeddus yn Louisville a'r Annen Realschule yn Dresden, yr Almaen. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Harvard a derbyniodd ei radd, ar flaen ei ddosbarth, ym 1877. Aeth i St. Louis, Missouri, i drin y gyfraith am flwyddyn cyn iddo ymsefydlu yn Boston, lle'r oedd yn gweithio nes iddo gael ei benodi i'r Goruchaf Lys gan yr Arlywydd Woodrow Wilson ym 1916. Brandeis oedd yr Americanwr Iddewig cyntaf i eistedd ar fainc y llys. Ymddiswyddodd o'r llys ar 13 Chwefror 1939, a bu farw yn Washington, D.C. yn 84 oed.[1]
Enwir Prifysgol Brandeis yn Waltham, Massachusetts, ar ei ôl.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.