clwb pêl-droed o Slofacia From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed yn Slofacia yw MŠK Žilina (ynganiad Slofaceg: [ˈɛm ˈɛʃ ˈkaː ˈʒilina]) sydd wedi'i leoli yn nhref Žilina, sy'n chwarae yn y Superliga Slofacia. Ers sefydlu'r gynghrair ym 1993, mae'r clwb wedi ennill 7 teitl (cywir ar ddiwedd tymor 2019/20), a does ond un clwb wedi ennill mwy, felly maent yn un o'r timau mwyaf llwyddiannus yn y gystadleuaeth. Mae gan y clwb a'u cefnogwyr fel ei gilydd y llysenw Šošoni (ar ôl y Shoshone - llwyth brodorol yr Amerig) ac mae'n chwarae ei gemau cartref yn Štadión pod Dubňom. Yn nhymor 2016-17, enillodd Žilina yr Uwch Gynghrair.
Enw llawn | MŠK Žilina a.s. | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | Šošoni ("Y Shoshone") Žlto-Zelení ("Y Melyn-Gwyrdd") | |||
Sefydlwyd | 20 Mehefin 1908 fel Zsolnai Testgyakorlók Köre | |||
Maes | Štadión pod Dubňom (sy'n dal: 11,258) | |||
Perchennog | Jozef Antošík | |||
Cadeirydd | Jozef Antošík | |||
Rheolwr | Pavol Staňo | |||
Cynghrair | Fortuna Liga | |||
2023–24 | Fortuna Liga, 3. | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
|
Sefydlwyd y clwb tua diwedd 1908 dan yr enw Hwngareg Zsolnai Testgyakorlók Köre, ac fe’i cofrestrwyd yn swyddogol ar 20 Mehefin 1909 - roedd Slofacia yn rhan o Hwngari ac Ymerodraeth Awstria-Hwngari ar y pryd. Enillodd y clwb ei bencampwriaeth Slofacia gyntaf (Zväzové majstrovstvá Slovenska) ym 1928 ac yna un arall ym 1929 ar adeg pan oedd Slofacia yn rhan o weriniaeth newydd Tsiecoslofacia a gydag elfen o ymreolaeth.
Yn gyfan gwbl, chwaraeodd Žilina 30 allan o 47 tymor [1] yng Nghynghrair Gyntaf Tsiecoslofacia rhwng 1945 a 1993. Dim ond 12 clwb oedd wedi treulio mwy o amser yno.[2] Y tymor mwyaf llwyddiannus o hyd yw 1946-47 pan wnaethant gipio'r 4ydd safle.
Mae llawer yn ystyried bod 1961 yn garreg filltir yn hanes y clwb. Yn gyntaf, fe gyrhaeddodd y tîm rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol, lle gwnaethant golli i Dukla Prâg, pencampwr Tsiecoslofacia yn y pen draw. Er gwaethaf y golled, am y tro cyntaf yn ei hanes fe dorrodd y clwb, a elwid wedyn yn Dynamo Žilina, i mewn i Ewrop i gystadlu yng Nghwpan Enillwyr Cwpan UEFA. Cafwydd buddugoliaethau nodedig 3–2 ac 1–0 dros Olympiacos wrth gyrraedd rownd yr wyth olaf, ond cafodd tîm uchelgeisiol Slofacia ei fwrw allan yn y pen draw gan enillydd y flwyddyn flaenorol, Fiorentina. Er i Žilina fachu buddugoliaeth addawol 3–2 gartref, aeth Fiorentina drwodd drwy ennill yr ail gymal 2–0.
Am resymau i wneud â newid grym a gwleidyddiaeth a nawdd, mae'r clwb wedi newid enw sawl gwaith yn ystod ei hanes:
Yn dilyn diddymu Tsiecoslofacia ym 1993, mae MŠK Žilina wedi bod yn chwarae yn Superliga Slofacia am gyfanswm o 23 tymor ac eithrio'r tymor 1995-96 ar ôl disgyn i'r Ail Adran.
Fe wnaethant chwarae yng Nghwpan UEFA 2008–09, gan gyrraedd y camau grŵp lle gwnaethant guro Aston Villa 2–1 ym Mharc Villa.
Yn 2015 cyrhaeddodd y clwb 4edd rownd ragarweiniol Cynghrair Europa UEFA wedi iddynt guro Athletic Bilbao 3–3 (3–2, 0–1).
Gelwir cefnogwyr MŠK Žilina yn Žilinskí Šošoni (Shoshones Žilina), Brigâd y Gogledd ac Žilinskí Fanatici (Ffanatics Žilina). Mae cefnogwyr Žilina yn cynnal cysylltiadau cyfeillgar â chefnogwyr Pwylaidd, Góral Żywiec.[3]
Štadión Pod Dubňom yw eu stadiwm cartref. Mae'n dal 11,181 o gefnogwyr.[4]
Ym mis Awst chwaraeodd MŠK Žilina ei gêm gyntaf yn erbyn tîm o Gymru sef Y Seintiau Newydd yng nghystadleuaeth Cynghrair Europa UEFA. Chwaraewyd y gêm ar 27 Awst yn Neuadd y Parc, maes y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt. Bu i MŠK Žilina golli i'r tîm Cymreig, 3-1 mewn amser ychwanegol.[5] Sgoriwyd goliau'r Seintiau gan Louis Robles, Leo Smith ac Adrian Cieslewicz gyda Patrik Myslovic yn sgorio dros MŠK Žilina.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.