Prag

prifddinas y Weriniaeth Tsiec From Wikipedia, the free encyclopedia

Prag
Remove ads

Prifddinas a dinas fwyaf Tsiecia yw Prag (Tsieceg: "Cymorth – Sain" Praha , Almaeneg: Prag). Mae hi'n ddinas o tua 1.2 miliwn o drigolion ar lân Afon Vltava. Mae canolfan hanesyddol y ddinas ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Sefydlwyd y dref yn y nawfed ganrif ac mewn ychydig roedd llys brenhinol Bohemia yno. Roedd rhai o frenhinoedd Bohemia yn ymerodwyr yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Roedd y dref yn blodeuo yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg o dan reolaeth Siarl IV, a adeiladodd ran newydd y dref, Pont Siarl, Eglwys Gadeiriol San Vitus (eglwys gadeiriol Gothig hynaf yng Nghanolbarth Ewrop) a'r brifysgol, yr un hynaf yng Nghanolbarth Ewrop i'r gogledd o'r Alpau.

Cyn 1784 roedd yna bedair ardal annibynnol: Hradčany (Ardal y Castell i'r gogledd o'r castell), Malá Strana (Ardal y Dref Lai i'r de o'r castell), Staré Město (Ardal yr Hen Dref ar lân ddwyreiniol yr afon gyferbyn â'r castell) a Nové Město (Ardal y Dref Newydd i'r de-ddwyrain o'r castell). Mae'r ddinas yn cynnwys nifer o drefi eraill heddiw, e.e. Josefov, Žižkov, Barrandov, Holesovice a Vyšehrad.

Lladdwyd hyd at 50,000 o Iddewon yn ystod hil-laddiad y Natsïaid yn y ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Remove ads

Gefeilldrefi

Eginyn erthygl sydd uchod am Tsiecia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads