Merch Harri II, brenin Ffrainc a Catrin de Medici, a gwraig Henri de Navarre (Harri IV, brenin Ffrainc) oedd Marguerite de Valois, a elwir hefyd yn "La Reine Margot (14 Mai 1553 – 27 Mawrth 1615). Daeth yn frenhines Ffrainc ac yn llenores.[1]
Marguerite de Valois | |
---|---|
Ganwyd | Marguerite de Valois 14 Mai 1553 Saint-Germain-en-Laye |
Bu farw | 27 Mawrth 1615 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | perchennog salon, ysgrifennwr |
Swydd | royal consort, Queen Consort of France |
Tad | Harri II, brenin Ffrainc |
Mam | Catrin de Medici |
Priod | Harri IV, brenin Ffrainc |
Partner | Jacques de Harlay |
Llinach | House of Valois, House of Bourbon |
llofnod | |
Gwaith llenyddol
Roedd Margot yn fardd ac yn epistolydd. Ei phrif waith yw ei Mémoires (Atgofion) sy'n cynnwys disgrifiadau bywiog a chofiadwy o rai o'r digwyddiadau hanesyddol y bu'n dyst iddynt, fel Cyflafan Gŵyl Sant Bartholomew, ynghyd â brasluniau mewn arddull ffres a thrawiadol o gymeriadau'r llys, yn arbennig y merched. Ei hysgrifennydd personol oedd y bardd François Maynard (1582-1646). Roedd hi ar delerau da â'r llenor Brantôme (c.1540-1614) hefyd, awdur y Recueil des dames a'r Dames Gallantes.
Ffuglen
Ysgrifennodd Alexandre Dumas (père) y nofel ramantaidd La Reine Margot yn seiledig ar brofiadau Margot adeg Cyflafan Gŵyl Sant Bartholomew yn 1846.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.