From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Mary Poppins Returns yn ffilm Americanaidd cerddorol 2018, a gyfarwyddwyd gan Rob Marshall, gyda sgript gan David Magee a stori gan Magee, Marshall a John DeLuca. Cafodd ei seilio ar gyfres lyfrau o'r un enw gan P. L. Travers a mae'n ddilyniant i'r ffilm Mary Poppins o 1964. Mae'r ffilm yn cynnwys Emily Blunt, Lin-Manuel Miranda, Ben Whishaw, Emily Mortimer, Julie Walters, Dick Van Dyke, Angela Lansbury, Colin Firth a Meryl Streep.[1]
Cyhoeddodd Walt Disney Pictures ei fod am greu'r ffilm ym Medi 2015; comisiynwyd Marshall ar ddiwedd y mis hwnnw a phenodwyd Blunt a Miranda yn Chwefror 2016. Yn Stiwdios Shepperton, Surrey y ffilmiwyd y gwaith ac fe'i lansiwyd yn Theatr Dolby yn Los Angeles ar 29 Tachwedd 2018. Roedd cyfnod o 54 mlynedd rhwng y ddau lansiad - y gwreiddiol a'r dilyniant - sef y cyfnod hiraf yn hanes ffilmio.[2][3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.