From Wikipedia, the free encyclopedia
Bwyd â chynnwys uchel o siwgr sy'n rhoi iddo flas melys yw melysfwyd.[1] Mae siocled, melysion neu losin, a chrystiau i gyd yn felysfwydydd. Bwyteir yn aml am bwdin neu fel bwyd cyfleus neu fyrbryd.
Defnyddir y broses ferwi siwgr i wneud nifer o felysfwydydd. Pan ymdoddir swcros mewn dŵr, cynhyrchir surop. Wrth wresogi'r toddiant anweddir rhywfaint o'r dŵr gan grynhoi'r siwgr berwi. Trwy atal y broses ar wahanol dymereddau ac oeri'r toddiant, ceir amryw o ansoddau. Gellir newid yr ansawdd a'r golwg ymhellach drwy ychwanegu cynhwysion a thrin y cymysgedd wrth iddo oeri.[2]
Tymheredd | Enw | Melysfwydydd |
---|---|---|
106–113 °C (223–236 °F) | edau | |
112–116 °C (234–240 °F) | pêl feddal | ffondant, cyffug |
118–121 °C (244–250 °F) | pêl led-galed | caramelau meddal, cyflaith |
121–130 °C (250–266 °F) | pêl galed | caramelau caled, cyflaith, malws melys, roc Caeredin |
132–143 °C (270–290 °F) | hollt feddal | menyn caramel, nyget, hymbyg, losin llygad tarw, roc glan môr |
149–154 °C (300–310 °F) | hollt galed | siwgr barlys, losin sur |
160–177 °C (320–350 °F) | caramel | taffi cnau, pralin |
Ers diwedd y 19g defnyddir thermomedrau arbennig i fesur tymheredd toddiannau siwgr berwi. Erbyn heddiw mae gan wneuthurwyr melysfwydydd gynhwysion sy'n bur gemegol, ond yn y cartref gellir defnyddio hen system i bennu gwahanol grynodiadau siwgr berwi. Am bob cam ceir dull i bennu cyflwr y toddiant. Cyn profi, tynnir y badell sy'n cynnwys y toddiant siwgr poeth o'r gwres a'i oeri drwy roi'r gwaelod mewn dŵr oer. Mae hyn yn atal y toddiant rhag berwi i gam uwch. Dyma'r dulliau i brofi camau berwi siwgr:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.