From Wikipedia, the free encyclopedia
Bryn a bryngaer yn Sir Ddinbych yw Moel y Gaer. Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain y sir rhwng Moel Morfydd and Moel Gamelin, tua 4.5 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Llangollen, yng nghymuned Llandysilio-yn-Iâl a thua 3 milltir i'r gogledd o bentref bychan Llandysilio ei hun. Mae'n rhan o'r gyfres o fryniau canolig eu huchder a adnabyddir fel Mynydd Llandysilio ac sy'n gorwedd rhwng y ffyrdd A5104 i'r gogledd, yr A542 i'r dwyrain a'r A5 i'r de. Lleoliad: cyfeiriad grid SJ167463 .
Math | caer lefal, bryngaer |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 53.008137°N 3.242852°W |
Cod OS | SJ1670546365 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE126 |
Ceir bryngaer 1.1 hectar ar gopa'r bryn[1] sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Mae'n cynnwys 0.8 hectar o dir. Amgylchinir y tir hwn gan glawdd hyd at 3.1 metr o uchder gyda mynedfa 20 metr o hyd sy'n troi i mewn trwy'r clawdd. O flaen y clawdd ar ochr y gogledd ceir ffos amddiffynnol. O fewn y gaer ceir safleoedd tua wyth o gytiau ond maent yn anodd i'w gweld oherwydd y grug a llus sy'n eu gorchuddio. Fel yn achos Moel y Gamelin, i'r de, mae rhan o'r gaer wedi cael ei erydu gan gerddwyr a beicwyr.[2]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE126.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.