![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/17/West_Mitten_Butte%252C_East_Mitten_Butte%252C_and_Merrick_Butte.jpg/640px-West_Mitten_Butte%252C_East_Mitten_Butte%252C_and_Merrick_Butte.jpg&w=640&q=50)
Monument Valley
dyffryn yr Colorado Plateau ar y ffin rhwng Arizona a Utah / From Wikipedia, the free encyclopedia
Monument Valley (Nafacho: Tsé Bii' Ndzisgaii, sy'n golygu dyffryn y creigiau) yn rhanbarth o Lwyfandir Colorado a nodweddir gan glwstwr o gnyciau tywodfaen helaeth, y mwyaf yn cyrraedd 300m uwchben llawr y dyffryn.[1] Mae wedi ei leoli ar ffin Arizona a Utah, ger ardal y Pedair Cornel. Mae'r dyffryn yn gorwedd o fewn tiriogaeth Gwarchodfa Cenedl Nafacho a gellir ei gyrraedd o Briffordd 163 yr UD.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/17/West_Mitten_Butte%2C_East_Mitten_Butte%2C_and_Merrick_Butte.jpg/640px-West_Mitten_Butte%2C_East_Mitten_Butte%2C_and_Merrick_Butte.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1a/Monumentvalleyviewfromnorth.jpg/640px-Monumentvalleyviewfromnorth.jpg)
Mae Monument Valley wedi cael sylw mewn sawl math o gyfryngau ers y 1930au. Defnyddiodd y cyfarwyddwr John Ford y lleoliad ar gyfer nifer o'i ffilmiau mwyaf adnabyddus ac felly, yng ngeiriau'r beirniad Keith Phipps, "mae ei 5 milltir sgwar (13 km2) wedi diffinio'r hyn y mae degawdau o fynychwyr sinema yn meddwl amdano wrth ddychmygu Gorllewin America." [2]