pentref ym Merthyr Tudful From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Treharris, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Mynwent y Crynwyr[1] (Saesneg: Quakers Yard).[2] Saif yn rhan ddeheuol y sir, i'r de o Treharris ac i'r gogledd-orllewin o Nelson, gerllaw ganol Afon Taf. Enw gwreiddiol y pentref oedd Rhyd y Grug. Erbyn tua 1650 roedd Bedyddwyr, Annibynwyr a Chrynwyr yn addoli yn ffermdy Berthlwyd, Pentwyn, ac yn fuan wedyn ffurfiodd y Crynwyr gynulleidfa ar wahan. Yn 1667, sefydlodd y Crynwyr eu mynwent eu hunanin ar dir Stad Pantannas. Lleolwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug yn y pentref am dros 30 mlynedd ond ym Medi 2010 symudodd yr ysgol i Aberfan, ac fe ddinistriwyd yr hen adeilad.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6603°N 3.3113°W |
Cod OS | ST093965 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au | Gerald Jones (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.