Cadwyn o fynyddoedd uchel yng ngogledd Iran sy'n ymestyn ar draws y wlad o'r ffin gydag Armenia i'r gogledd-orllewin i ben deheuol Môr Caspia ac sy'n cyrraedd wedyn hyd at y ffin gyda Affganistan a Tyrcmenistan yw'r Alborz (Perseg: البرز), a drawslythrennir fel Alburz neu Elburz weithiau hefyd. Gorwedd Mynydd Damavand, y mynydd uchaf yn Iran a'r Dwyrain Canol, yn y gadwyn hon.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | Iran |
Arwynebedd | 155,970 km² |
Uwch y môr | 5,610 metr |
Cyfesurynnau | 36.07583°N 51.79611°E |
Hyd | 600 cilometr |
Ffurfia cadwyn yr Alborz fur rhwng glannau Môr Caspia i'r gogledd a llwyfandir Qazvin-Tehran i'r de. Gyda lle o tua 60–130 km, mae ei rhannau uchaf yn y de yn sych gyda dim ond ychydig o goed, ond mae'r llethrau gogleddol, sy'n derbyn glawogydd o'r gogledd, yn wyrdd a choediog.
Mae sgïo a mynydda yn boblogaidd ac mae canolbarth y gadwyn yn denu nifer o ymwelwyr, yn enwedig o'r dinasoedd mawr fel Tehran, sy'n gorwedd yn agos i Fynydd Damavand, a Semnān.
Mae gan y copaon hyn ran bwysig ym mytholeg Zoroastriaeth.
Copaon
Mynyddoedd Canolbarth yr Alborz
Mynyddoedd Gorllewinol yr Alborz
Mynydd | Uchder(m) |
---|---|
Sialan | 4250 |
Shah Alborz | 4200 |
Khashechal | 4180 |
Naz | 4100 |
Kahar | 4050 |
Gweler hefyd
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.