Mynydda

From Wikipedia, the free encyclopedia

Mynydda
Remove ads

Mynydda yw'r grefft o esgyn mynyddoedd. Yn achos mynyddoedd uchel mae'n gallu cynnwys dringo ar greigiau, rhew neu eira, ond nid yw pob mynyddwr yn ddringwr ac nid yw pob dringwr yn fynyddwr.

Thumb
Y dringwr Owen Glynne Jones o'i lyfr Rock-climbing in the English Lake District. Keswick, Cumberland County, England: G.P. Abraham & Sons, 1911
Thumb
Mynyddwyr yn disgyn crib eira yn yr Alpau
Gweler hefyd Dringo.

Mae ardaloedd mynydda enwog yng ngwledydd Prydain yn cynnwys Eryri a Bannau Brycheiniog yng Nghymru, Ardal y Llynnoedd yn Lloegr a Glencoe, Skye a'r Cairngorms yn yr Alban. Ar gyfandir Ewrop yr Alpau yw'r ganolfan enwocaf ond ceir mynydda da ar fynyddoedd llai fel y Pyrenees, y Tatra a mynyddoedd Norwy. O gwmpas y byd mae mynyddoedd mawr fel yr Andes, y Rockies a'r Himalaya yn galw.

Remove ads

Rhai cerrig milltir yn hanes mynydda

  • Tua 5,300 o flynyddoedd yn ôl dringodd dyn, sydd wedi cael ei enwi'n Ötzi gan archaeolegwyr, i tua 3,000 m i fyny yn yr Alpau. Cafodd hyd i'w gweddillion mewn rhewlif.
  • Dringodd yr ymerodr Rhufeinig Hadrian Etna (3,350 m) i weld y wawr o'r copa yn 121.
  • Dringodd Pedr III o Aragon fynydd Canigou yn y Pyrenees yn chwarter olaf y 13g.
  • Dywedir fod Popocatépetl (5,426 m, Mecsico) wedi cael ei ddringo yn 1289 gan aelodau o lwyth lleol y Tecanuapiaid.
  • Mae'r bardd Eidaleg Petrarch yn honni ei fod wedi dringo Mont Ventoux (1,909m) ar 26 Ebrill 1336, gyda'i frawd a dau was.
  • Y Rochemelon (3,538 m) yn yr Alpau Eidalaidd yn cael ei ddringo yn 1358.
  • Honnir bod trigolion yr Andes yn dringo rhai o'r copaon yn y cyfnod 14001500au.
  • Yn 1492 dringwyd Mont Aiguille ar orchymyn Charles VIII, brenin Ffrainc.
  • Leonardo da Vinci yn dringo maes eira Val Sesia i wneud gwaith gwyddonol.
  • Yn 1642 mae Darby Field yn dringo Mynydd Washington (Agiocochook) yn New Hampshire (gogledd-ddwyrain UDA heddiw).
  • Ar ddiwedd yr 17g mae Konrad Gesner a Josias Simler o Zürich yn ymweld â'r Alpau ac yn dechrau dringo i'r copaon yn gyson. Defnyddir bwyeill rhew cyntefig a rhaffau am y tro cyntaf.
  • Yn 1741 mae Richard Pococke a William Windham yn ymweld â Chamonix, gan gychwyn ffasiwn am ymweld â rhewlifoedd.
  • Yn 1744 dringir Mynydd Titus yn yr Alpau.
  • Yn ystod y 1950au, dringwyd y pob copa 8000m namyn dau, gan gychwyn gyda Annapurna yn 1950 gan Maurice Herzog a Louis Lachenal. Cafodd fynydd uchaf y byd, Mynydd Everest (8,848 m) ei ddringo ar 29 Mai, 1953 gan Syr Edmund Hillary a Tenzing Norgay, o'r ichr ddeheuol yn Nepal. Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach dringodd Hermann Buhl Nanga Parbat (8,125 m), ar ben ei hun, yr unig enghraifft o gopa 8000m i gael ei ddringo am y tro cyntaf gan fynyddwr unigol. Dringwyd K2 (8,611 m), mynydd ail-uchaf y byd, yn 1954. Yn 1964, esgynwyd y copa 8000m olaf, Shishapangma (8,013 m).
Remove ads

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads