môr From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Môr Celebes (Indoneseg: Laut Sulawesi; Ffilipino: Dagat Selebes) yng ngorllewin y Môr Tawel ac yn cael ei ffinio i'r gogledd gan ynysforoedd Sulu a Môr Sulu, ac Ynys Mindanao o'r Philipinau, ar y dwyrain gan gadwyn o Ynysoedd y Sangihe, i'r de gan Benrhyn Mizahassa yn Sulawesi, ac yn y gorllewin gan Kalimantan yn Indonesia. Mae'n ymestyn 675 km o'r gogledd i'r de a 840 km o'r dwyrain i'r gorllewin ac mae cyfanswm arwynebedd o 280,000 km sgwâr ac uchafswm dyfnder o 6,200m. Mae'r môr yn agor yn y de-orllewin trwy Gulfor Makassar i mewn i Môr Java.
Math | môr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 280,000 km² |
Cyfesurynnau | 3°N 122°E |
Mae Môr Celebes yn rhan o hen môr basn a ffurfiwyd 42 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn mangre yn rhydd o unryw dirfas. Erbyn 20 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd symudiadau crawen y ddaear wedi symud y basn yn ddigon agos at losgfynyddoedd Indonesia a'r Philipinia i dderbyn eu gweddillion.[1] Erbyn 10 miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd Môr Celebes yn boddi gyda malurion cyfandirol, gan gynnwys glo, a ollyngwyd gan fynydd newydd a dyfai ar Borneo a'r ffaith fod y basn wedi docio yn erbyn Ewrasia.
Mae'r ffin rhwng y moroedd Celebes a Sulu ar Grib Sibutu-Basilan. Mae cerrynt cefnforol cryf, ffosydd dyfn a môr-fynyddoedd, ynghyd ac ynysoedd llosgfynyddol gweithgar, yn arwain at nodweddion eigionegol cymhleth.
Ar Fai Mai 2013, llofnododd Llywodraeth Gweriniaeth y Philipinau a Llywodraeth Gweriniaeth Indonesia gytundeb i sefydlu'r ffîn sy'n amffinio'r Parth Economaidd Unigryw (EEZ) rhwng y ddwy wlad. Fe gytunwyd y byddai i'r gogledd o'r ffîn dan awdurdodaeth y Philipinau (gelwir y rhan yma o'r môr yn Fôr Mindanao) ac fe fyddai i'r de o'r ffîn dan reolaeth Indonesia (a gelwyd y rhan yma o'r môr yn Fôr Celebes).[2][3][4]
Pwynt | Lledred | Hydred |
---|---|---|
1 | 3° 06’ 41 G | 119° 55’ 34 Dn |
2 | 3° 26’ 36 G | 121° 21′ 31 Dn |
3 | 3° 48′ 58 G | 122° 56′ 03 Dn |
4 | 4° 57′ 42 G | 124° 51′ 17 Dn |
5 | 5° 02′ 48 G | 125° 28’ 20 Dn |
6 | 6° 25′ 21 G | 127° 11′ 42 Dn |
7 | 6° 24′ 25 G | 128° 39′ 02″ Dn |
8 | 6° 24′ 20 G | 129° 31’ 31 Dn |
Mae'r International Hydrographic Organization (IHO) yn diffinio Môr Celebes fel un o ddyfroedd Ynysgadwyn Dwyrain Asia. Mae'r IHO yn diffinio ei therfynau fel a ganlyn:[5]
Ar y Gogledd. O derfyn deheuol Môr Sulu/Sulu Sea [o Bentir Tagolo, lawr arfordir gorllewinol Mindanao i eithafion y de-orllewin hyd at arfordir ogleddol Ynys Basilan/Basilan Island (6°45′N 122°04′E), a thrwy'r ynys yma i'w then deheuol either, a felly linnell i Ynys Bitinan (6°04′N 121°27′E) oddi ar ben ddwyreiniol eithaf Ynys Jolo/Jolo Island, a thrwy Jolo hyd at bwynt ar ledriad to a point in long. 121°04'Dn ar ei arfordir ddeheuol, a thrwy Ynysoedd Tapul a Lugus ac ar hyd arfordir ogleddol Ynys Tawitawi/Island at Ynys Bongao/Island oddi ar ei phen orllewinol (5°01′N 119°45′E), ac yno i Tanjong Labian, ym mhen pellaf eithaf Borneo] ac arfordir de-orllewin Mindanao.
Ar y dwyrain. Llinell o Bentir Tinaca, man deheuol Mindanao, i fan gogleddol pulau Sangihe Besar (3°45′N 125°26′E) yno trwy'r pulau-pulau Sanguine i Tanjung Puisan, man eithafol gogleddol Celebes [Sulawesi].
Ar y de. Arfordir gogledd Celebes rhwng tanjung Puisan a tanjung Binar (Cape Rivers) (1°20′N 120°52′E) ac yno mewn llinell i Tanjung Mangkalihat yn Borneo, terfyn gogleddol Culfor Makassar/Strait [llinell sydd yn ymuno Tanjung Mangkalihat, Borneo (1°02′N 118°57′E) a tanjung Binar (Cape Rivers), Celebes (1°20′N 120°52′E)].
Ar y gorllewin. Arfordir dwyrain Borneo rhwng Tanjung Mangkalihat a Tanjong Labian, terfyn deheuol Môr Sulu.
Mae'r Môr Celebes yn gartref i amrywiaeth eang o bysgod a chreaduriaid dyfrol. Mae'r lleoliad trofannol â'r dyfroedd clir cynnes yn caniatáu tua 580 allan o 793 o rywogaethau'r byd o cwrelau sy'n adeiladu creigesi cwrel, sy'n tyfu i fod yn un o'r creigesi cwrel mwyaf bio-amrywiol yn y byd, gydag amrywiaeth drawiadol o fywyd morol, gan gynnwys morfilod a dolffiniaid, crwbanod y môr, pelydrau manta, eryr pelydrau, barracuda, marlyn a rhywogaethau creigesi cwrel a chefnforol eraill. Mae'r tiwna a'r diwna yellowfin hefyd yn doreithiog. Yn ogystal â'r digonedd o bysgod a gaiff eu pysgota ym Môr Celebes, mae'r môr hefted yn cynhyrchu cynhyrchion dyfrol eraill fel y tang y môr (rhywogaethau o wymon bras).
Mae Môr Celebes yn ffordd forol bwysig ar gyfer masnach ranbarthol. Mae'r môr hefyd yn boblogaidd ar gyfer plymio sgwba - a hwylio môr moethus.
Mae plot cefnforol yn gorwedd tan Môr Celebes, gyda lledaenu ganol-cefnforol yn ei rhan ganolog. Mae'r lleoliad hwn wedi ei islithro i'r da ac i'r gogledd. Gwnaed nifer o arolygon seismig ac ymchwil drilio'n y maes yma er mwyn casglu gwybodaeth ddaearegol. Mae daeareg Môr Sulawesi wedi ei ddisgrifio'n y Geology of Indonesia Wikibook.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.