adeilad dinesig yng Nghaerdydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Adeilad ym Mharc Cathays, Caerdydd, yw Neuadd y Ddinas, a'i adeiladwyd rhwng 1901 a 1905. Fe'i gynlluniwyd ar y cyd â Llys y Goron Caerdydd gan y penseiri Lanchester, Stewart a Rickards, a enillodd y gystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad ym 1897. Ystyrir Neuadd y Ddinas yn un o uchafbwyntiau'r adfywiad o bensaernïaeth Baróc yn nheyrnasiad Edward VII.[1]
Math | neuadd y dref |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Parc Cathays, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 13 metr |
Cyfesurynnau | 51.485°N 3.179°W |
Cod post | CF10 3ND |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Edwardaidd |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Safai guildhall tref canoloesol Caerdydd yng nghanol y Stryd Fawr; roedd gan yr adeilad hwn farchnad ar y llawr isaf. Yn 1742–7 dymchwelwyd yr adeilad hwn a chodwyd neuadd newydd i'r dref ar yr un safle, yn cadw'r farchnad ac yn ychwanegu carchar i'r llawr gwaelod.[2] Rhyw ganrif yn hwyrach cynhaliwyd gystadleuaeth am adeilad newydd ar gyfer Neuadd y Dref a'r Cyfnewidfa Ŷd. Enillwyd hyn gan Horace Jones (a gynlluniodd Tower Bridge yn Llundain yn hwyrach yn ei yrfa), ac agorwyd yr adeilad newydd ar Heol Eglwys Fair, yn yr arddull neo-glasurol, ym 1853. Fe'i estynnwyd yn 1876 gan James, Seward a Thomas, ffỳrm pensaernïol o Gaerdydd.[3] Ym 1915 codwyd adeilad a elwir heddiw yn Hodge House ar y safle hwnnw.[4]
Cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad cyntaf ym Mharc Cathays, sef neuadd y dref a'r llysoedd barn, ym 1897,[5] ar ôl i'r cyngor brynu'r tir oddi wrth Ardalydd Bute. Enillwyr y gystadleuaeth, allan o 56 o ymgeiswyr, oedd Edwin Afred Rickards o'r ffỳrm Lanchester, Stewart a Rickards.[6] Ffurfiwyd y bartneriaeth yn arbennig ar gyfer ymuno â'r gystadleuaeth hon gan Rickards a'i gyd-benseiri Henry Vaughan Lanchester a James Stewart.[7] Y pensaer Fictoraidd o fry Syr Alfred Waterhouse a fu'n barnu'r gystadleuaeth.[8] Cynhaliwyd seremoni gosod y maen cyntaf ym 1901 ac ym 1906 agorwyd Neuadd y Ddinas yn swyddogol gan Ardalydd Bute.[6] Enillodd Caerdydd ei statws fel dinas yn y flwyddyn flaenorol.[9]
Newidiwyd y cynlluniau yn sylwyeddol rhwng ennill y gystadleuaeth a'r hyn gafodd ei adeiladu i arddull mwy blodeuog y Baróc, gyda dylanwadau cryf o Awstria, de'r Almaen a Ffrainc.[9] Roedd y fath ddylanwadau yn anarferol ym mhensaernïaeth Baróc Edwardaidd, a arferai cyfeirio at waith y pensaer o Sais, Syr Christopher Wren.[5] Mae'r cerfluniau ar y ffasâd yn cynnwys ffigyrau yn cynrychioli afonydd Caerdydd, sef Taf, Rhymni ac Elái,[10] ac alegorïau o Gerddoriaeth a Barddoniaeth (gan Paul Montford) ac Undod a Gwladgarwch (gan Henry Poole).[11] Ceir dau grŵp arall o gerfluniau sy'n cyfateb i'r ddau uchod ar ffasâd y llysoedd barn; dyma'r unig enghraifft yng ngwledydd Prydain o ddau adeilad dinesig yn cael eu cynllunio ar y cyd.[12] Gwaith y cerflunwydd Henry Charles Fehr yw'r ddraig plwm ar ben y gromen.[10]
Cynlluniwyd y grisiau yn arwain at yr Ystafell Gynnull ag wyth pedestal a dau gilfach gwag, ac o ganlyniad i hyn fe benderfynwyd y dylid eu llenwi â cherfluniau o arwyr Cymreig.[13] Cytunodd y diwydiannwr a gwleidydd David Alfred Thomas i'w hariannu ac fe benodwyd Yr Athro Thomas Powel, Syr Thomas Marchant a'r Aelod Seneddol W. Llewelyn Williams i farnu pwy y dylid eu coffáu. I feithrin diddordeb cynhaliwyd gystadleuaeth gan y Western Mail yn annog i bobl ysgrifennu rhestrau eu hunain; roedd gwobr o £20 ar gael i'r rheiny â rhestrau yn cyfateb yn union i'r hyn a baratowyd gan yr ysgolheigion, ond enillodd neb y wobr.[14] Agorwyd y Neuadd Farmor gan David Lloyd George, y Weinidog Rhyfel ar y pryd, ar 27 Hydref 1916.[15] Dyma restr o'r cerfluniau:
Ymddengys Neuadd y Ddinas ar glawr y sengl "Mulder and Scully" (1998) gan Catatonia, mewn delwedd a'i ysbrydolwyd gan boster y ffilm Independence Day. Ynddo caiff Neuadd y Ddinas (yn hytrach na'r Tŷ Gwyn yn Washington, D.C.) ei drywanu gan belydr o beth hedegog anhysbus.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.