Roedd Noricum yn diriogaeth llwyth Celtaidd y Noriciaid, yn Awstria a rhan o dde'r Almaen. Yn ddiweddarach daeth yn dalaith Rufeinig. Roedd yn ffinio â Rhaetia yn y gorllewin, Pannonia yn y dwyrain a Dalmatia i'r de-ddwyrain. I'r gogledd yr oedd gweddillion yr hen deyrnas Geltaidd, oedd ar un adeg y ddwy ochr i Afon Donaw).

Talaith Noricum yn yr Ymerodraeth Rufeinig
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Noricum
Mathteyrnas, ardal hanesyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasVirunum Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Cau

Dan yr ymerawdwr Augustus yr oedd Noricum yn stad yn perthyn i'r ymerawdwr yn hytrach na thalaith, ond yn nes ymlaen daeth yn dalaith ecwestraidd. Dan Marcus Aurelius bu rhyfeloedd yn erbyn y Marcomanni a chodwyd statws y dalaith, gyda'r rhaglaw yn awr o statws seneddol a chyda lleng yno'n barhaol, legio II Italica. Prifddinas y dalaith oedd Lauriacum (heddiw Lorch, Awstria).

Yn y drydedd a'r bedwaredd ganif bu ymosodiadau parhaus ar y dalaith gan wahanol lwythi Almaenaidd. Er hynny, yn y bumed ganrif, yr oedd Noricum yn un o'r taleithiau olaf i gael ei rheoli o'r Eidal, hyd pan ddiswyddwyd yr ymerawdwr olaf, Romulus Augustulus, yn 476.

Rhagor o wybodaeth Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC ...
Cau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.