Pisidia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ardal yn rhan ddeheuol Asia Leiaf a drowyd yn dalaith Rufeinig oedd Pisidia. Roedd yn cynnwys rhan orllewinol mynyddoedd Taurus, ac yn ymestyn o'r gwastadedd ger yr arfordir yn Antalya yn y de hyd at lynnoedd Burdur yn y gogledd.
Roedd y dalaith Rufeinig yn ffinio ar Phrygia i'r gorllewin, Lycaonia i'r dwyrain, Pamphylia yn y de a Galatia yn y gogledd. Ystyrid y Pisidiaid yn bobl ryfelgar, ac oherwydd natur fynyddig y wlad, ni lwyddodd Ymerodraeth Persia nac Alecsander Fawr i goncro'r ardal yn llwyr.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
