![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/dc/British_55th_Division_gas_casualties_10_April_1918.jpg/640px-British_55th_Division_gas_casualties_10_April_1918.jpg&w=640&q=50)
Nwy (arf rhyfel)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o arf cemegol yw nwy rhyfel. Mae arf cemegol yn wahanol i arf niwclear ac i arf fiolegel. Dyw rhyfela cemegol ddim yn dibynnu ar ffrwydradau.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/dc/British_55th_Division_gas_casualties_10_April_1918.jpg/640px-British_55th_Division_gas_casualties_10_April_1918.jpg)
Er fod rhyfela cemegol amrwd wedi bod yn rhan o ryfela ers miloedd o flynyddoedd,[1] adeg y Rhyfel Byd Cyntaf y defnyddiwyd nwy rhyfel modern gyntaf ar faes y gad.[2] I ddechrau defnyddid cemegau masnachol, gan gynnwys clorin a Ffosgen. Roedd y dulliau a ddefnyddid i wasgaru'r nwy adeg y brwydro yn amrwd ac yn aneffeithiol. Serch hynny gallai nifer y clwyfedig fod yn uchel. Roedd gwawr werdd i'r nwy ac iddo arglu'n gryf ac roedd hyn yn help i weld y nwy. Roedd ei lastwreiddio â dŵr yn lleihau ei effaith yn fawr.[3] Y defnydd cyntaf o arf cemegol oedd y defnydd o nwy dagrau. Doedd e ddim yn angeuol, ond yr oedd yn anablu'r milwyr rhag ymladd. Roedd clorin yn gwneud i'r llygaid, y trwyn, y gwddf a'r ysgyfaint yn lludus [4]