Paleosen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy'r Paleosen (symbol Pε)[1] gyda'i ystyr llythrennol yn golygu "y diweddar cynnar". Yr ansoddair yw Paleosenaidd (Saesneg: Paleocene neu Palaeocene). Parhaodd yr epoc hwn rhwng tua 7001655000000000000♠65.5±0.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at tua 7015176091408000000♠55.8±0.2 Ma. Dyma epoc cyntaf y gyfres Paleogen yn yr era Cenosoig. Oed y creigiau sy'n pennu dyddiadau'r gyfres hon ac maent wedi'u diffinio'n eitha pendant.
System | Cyfres | Oes | Oes (Ma) | |
---|---|---|---|---|
Cwaternaidd | Pleistosenaidd | Gelasaidd | ifancach | |
Neogenaidd | Plïosenaidd | Piacensaidd | 2.588–3.600 | |
Sancleaidd | 3.600–5.332 | |||
Mïosenaidd | Mesinaidd | 5.332–7.246 | ||
Tortonaidd | 7.246–11.608 | |||
Serravallaidd | 11.608–13.65 | |||
Langhianaidd | 13.65–15.97 | |||
Bwrdigalaidd | 15.97–20.43 | |||
Acwitanaidd | 20.43–23.03 | |||
Paleogenaidd | Oligosenaidd | Cataidd | hynach | |
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009. |
- Gofal: ceir cyfnod arall gydag enw tebyg: Paleogen.
Mae'r epoc hwn yn dilyn y digwyddiad enfawr hwnnw pan ddiflannod y deinosoriaid a llawer o anifeiliaid a phlanhigion eraill, a'r epoc blaenorol, sef y Cretasaidd. Gadawodd hyn wacter ecolegol enfawr. Ystyr "paleo" yn y Groeg ydy "hynaf" (παλαιός a "newydd" (καινός yw ystyr kainos a gwelwyd ffawna newydd yn ystod yr epoc yma, cyn gweld esblygu mathau newydd o anifeiliaid e.e. y mamal yn yr epoc sy'n dilyn (sef yr Eosen).
Rhennir y Paleosen yn dair rhan geolegol, o'r ieuenga i'r hynaf:
Thanetaidd | (7001587000000000000♠58.7±0.2 – 7015176091408000000♠55.8±0.2 Ma) |
Selandaidd | (7001617000000000000♠61.7±0.2 – 7015185243112000000♠58.7±0.2 Ma) |
Daniaidd | (7001655000000000000♠65.5±0.3 – 7015194710392000000♠61.7±0.2 Ma) |
Ar ben hyn, mae'r Paleosen ei hun yn cael ei rannu'n 6 ardal mamalaidd.