actor a aned yn 1915 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a digrifwr o Americanwr oedd Maxwell Emmett "Pat" Buttram (19 Mehefin 1915[1] – 8 Ionawr 1994).[2] Ef oedd sidekick Gene Autry ar The Gene Autry Show (1950–56), a chwaraeodd Mr. Haney yn y comedi sefyllfa Green Acres (1965–71). Roedd yn enwog am ei lais cryglyd sy'n nodi ei rannau mewn nifer o ffilmiau animeiddiedig Disney, yn enwedig Siryf Nottingham yn Robin Hood (1973) a'r ci Chief yn The Fox and the Hound (1981). O 1981 ymlaen actiodd Buttram mewn llai o ffilmiau, ond ymddangosodd yn aml ar deledu ac yn gyhoeddus fel tostfeistr[1] ac yn y 1980au cyfranodd jôcs i areithiau'r Arlywydd Ronald Reagan.[3] Bu farw ym 1994 o fethiant yr aren.[4]
Pat Buttram | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mehefin 1915 Addison, Alabama |
Bu farw | 8 Ionawr 1994 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llais, actor ffilm, actor teledu, actor llais, actor |
Adnabyddus am | The Aristocats, Robin Hood, The Rescuers, The Fox and the Hound, Who Framed Roger Rabbit, A Goofy Movie, Back to the Future Part III |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Sheila Ryan |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.