From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Patrick Pat Munro (9 Hydref 1883 - 3 Mai 1942) yn chwaraewr rygbi'r undeb a chwaraeodd rygbi clwb dros Brifysgol Rhydychen ac yn rhyngwladol dros yr Alban. Roedd Munro hefyd yn wleidydd Ceidwadol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri o 1931 hyd ei farwolaeth.[1]
Patrick Munro | |
---|---|
Ganwyd | 9 Hydref 1883 Partick |
Bu farw | 3 Mai 1942 Westminster |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, chwaraewr rygbi'r undeb |
Swydd | Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Priod | Jessie Margaret Martin |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban, Clwb Rygbi Prifysgol Rhydychen |
Safle | maswr |
Ganwyd Munro yn Partick, Glasgow, yn bumed fab i Patrick Munro, ariannydd i gwmni The Scottish Provident Institution a Mary Helen Catherine (née Dormon) ei wraig,[2] Yn ei ieuenctid symudodd y teulu i Harrogate yn Swydd Efrog. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Leeds a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen, lle graddiodd BA mewn Hanes ym 1906.[3]
Dechreuodd Munro chware i dîm rygbi'r undeb Prifysgol Rhydychen ym 1903 gan wasanaethu fel capten y tîm ym 1905. Ymddangosodd fel aelod o garfan ryngwladol yr Alban ym 1905, 1906, 1907 a 1911 gan wasanaethu fel capten y tîm yn 1907 a 1911. Derbyniodd hanner grys glas gan Brifysgol Rhydychen ym 1900 am gystadlu yn y naid uchel. Bu'n llywydd cymdeithas Vincent ym 1906-1907, sef cymdeithas chwaraewyr y Brifysgol oedd wedi ennill crys glas y brifysgol mewn unrhyw gamp. Ar ôl ymadael a'r coleg bu'n chwaraewr achlysurol i dîm Albanwyr Llundain. Roedd ei waith yn mynd a fo dramor yn aml, gan hynny, doedd dim modd iddo fod yn aelod rheolaidd o'r tîm.[4]
Rhwng 1939 a'i farwolaeth gwasanaethodd fel is lywydd Undeb Rygbi'r Alban.[5]
Ar ôl gadael Rhydychen ymunodd Munro â Gwasanaeth Gwleidyddol Swdan ym 1907. Roedd Gwasanaeth Gwleidyddol Swdan yn rhan o Wasanaeth Sifil tramor Prydain a oedd yn gweinyddu Swdan a rhannau eraill o ogledd ddwyreiniol Affrica, megis yr Aifft i'r Ymerodraeth Brydeinig.[11] Fel rhan o'i waith yn y Gwasanaeth Gwleidyddol gwasanaethodd Munro fel Llywodraethwr Talaith Darfur rhwng 1923 a 1924 ac fel Llywodraethwr Talaith Khartoum rhwng 1925 a 1929. Ym 1919 cafodd ei grybwyll mewn cadlythyrau a 10 mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei dderbyn i Urdd y Nîl.
Yn Etholiad cyffredinol 1931 safodd Munro fel yr Ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Llandaf a'r Bari gan lwyddo i gipio'r sedd odd iwrth y Blaid Lafur. Cadwodd y sedd hyd ei farwolaeth.
Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Capten Euan Wallace pan oedd yn Is-ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ym 1935 ac yna'n Ysgrifennydd Masnach Dramor. Aeth Munro ymlaen i fod yn Chwip Iau'r Llywodraeth ym 1937, gan ymddiswyddo ym mis Mawrth 1942. Ymunodd â chyflogres y llywodraeth fel Arglwydd Iau'r Trysorlys yn ddiweddarach y flwyddyn honno a gwasanaethodd hyd ei farwolaeth.[12]
Ym 1911 priododd Munro â Jessie Margaret merch E. P. Martin o ystâd Bryn y Fenni. Roedd eu cartref ym Mhrydain yn y Bwlch, Sir Faesyfed oedd yn rhan o ystâd y teulu. Ni fu iddynt blant
Ar 3ydd mai 1942 trefnodd y Swyddfa Rhyfel ymarferiad i weld sut byddai Whitehall ac ystâd y llywodraeth yn ymdopi efo cyrch gan luoedd yr Almaen. Cogiodd 15 mil o filwyr a gwirfoddolwyr eu bod yn filwyr o'r Almaen oedd wedi glanio yn Hyde Park a Phalas Buckingham. Bu rhai o'r ffug milwyr yn cogio ceisio meddiannu Palas San Steffan, cartref Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin.[13] Roedd Munro yn aelod o Warchodlu Cartref Palas San Steffan ac yn ffugio amddiffyn a gwarchod yr adeiladau, yr aelodau a'r staff. Rhedodd i swyddfeydd y Blaid Ryddfrydol i roi rhybudd i arweinwyr y blaid o'r hyn oedd yn digwydd. Cafodd trawiad ar y galon a bu farw cyn y gellid rhoi cymorth meddygol iddo.[14] Gan ei fod ar ddyletswydd fel aelod o'r gwarchodlu, cyfrifid ei farwolaeth fel un o anaf ryfel.[15] Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Eglwys San Fihangel ger ei gartref yn y Bwlch. Fel bedd un bu farw ar ddyletswydd filwrol mae'r bedd yng ngofal Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.[16]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Ellis Lloyd |
Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri 1931 – 1942 |
Olynydd: Cyril Lakin |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.