![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/53/Thomas_Woodrow_Wilson%252C_Harris_%2526_Ewing_bw_photo_portrait%252C_1919.jpg/640px-Thomas_Woodrow_Wilson%252C_Harris_%2526_Ewing_bw_photo_portrait%252C_1919.jpg&w=640&q=50)
Pedwar Pwynt ar Ddeg
rhaglen wleidyddol Arlywydd UDA ar gyfer y byd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf / From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Pedwar Pwynt ar Ddeg neu, hefyd, Un Deg Pedwar Pwynt yw’r enw a roddir ar nifer o gynigion a gyhoeddodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Woodrow Wilson ar 8 Ionawr 1918 mewn araith i Gyngres yr Unol Daleithiau i roi diwedd ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymladdodd yr Unol Daleithiau ar ochr Entente yn y rhyfel, ond nid oeddent yn ystyried ei hun yn rhwym wrth gytundebau y Cynghreiriaid (yn enwedig Ffrainc, Prydain a'r Eidal) ynghylch eu hamcanion Rhyfel. Roedd Wilson yn gobeithio gyda'r Pedwar Pwynt ar Ddeg i sefydlu heddwch teg a pharhaol. Roedd pwyslais y pedwar pwynt ar ddeg ar hunanbenderfyniad y cenhedloedd a sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/53/Thomas_Woodrow_Wilson%2C_Harris_%26_Ewing_bw_photo_portrait%2C_1919.jpg/640px-Thomas_Woodrow_Wilson%2C_Harris_%26_Ewing_bw_photo_portrait%2C_1919.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/86/Wilsons_Fourteen_Points_--_European_Baby_Show.png/320px-Wilsons_Fourteen_Points_--_European_Baby_Show.png)