pentref ym Merthyr Tudful From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Troed-y-rhiw, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Pentrebach[1] neu Pentre-bach.[2] Saif yn rhan ddeheuol y sir, i'r de o ganol tref Merthyr Tudful, yr ochr arall o Afon Taf i bentref Abercannaid ac i'r gogledd o bentref Troed-y-rhiw. I'r dwyrain o'r pentref mae Mynydd Cilfach-yr-Encil (445 m.).
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7256°N 3.3567°W |
Cod OS | SO064035 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au | Gerald Jones (Llafur) |
Tyfodd y pentref wedi i John Guest sefydlu Gwaith Haearn Plymouth yn 1763 (261 blynedd yn ôl). Roedd rheilffordd wreiddiol Trevethick, a adeiladwyd yn 1804, yn arwain trwy'r pentref ar ei ffordd rhwng Penydarren ac Abercynon. Mae twnnel yn dal i'w weld yma. Agorwyd Glofa South Duffryn yn 1862.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.