![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e1/Weihnachtsstern_-_gro%25C3%259F.jpg/640px-Weihnachtsstern_-_gro%25C3%259F.jpg&w=640&q=50)
Poinsetia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn o'r teulu Euphorbiaceae yw'r poinsetia (lluosog: poinsetias;[1] Lladin: Euphorbia pulcherrima) sy'n frodorol i Fecsico a Chanolbarth America. Yno, gall dyfu hyd at 16 troedfedd o daldra. Yr enw lleol arno ydy flor de la noche buena, 'blodyn y Nadolig'.
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Poinsetia | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Malpighiales |
Teulu: | Euphorbiaceae |
Genws: | Euphorbia |
Rhywogaeth: | E. pulcherrima |
Enw deuenwol | |
Euphorbia pulcherrima Willd. ex Klotzsch | |
Cau
Mae ei ddail coch a gwyrdd yn boblogaidd, bellach drwy Ewrop, adeg y Nadolig. Daw ei enw o Joel Roberts Poinsett, a gyflwynodd y planhigyn i'r Unol Daleithiau pan oedd yn y llysgennad Americanaidd yng ngweriniaeth annibynnol Mecsico rhwng 1825 ac 1829.[2]