![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f9/Ram%25C3%25B3n_de_Mesonero_Romanos%252C_de_V%25C3%25ADctor_Manzano_y_Mejorada.jpg/640px-Ram%25C3%25B3n_de_Mesonero_Romanos%252C_de_V%25C3%25ADctor_Manzano_y_Mejorada.jpg&w=640&q=50)
Ramón de Mesonero Romanos
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor Sbaenaidd oedd Ramón de Mesonero Romanos (19 Gorffennaf 1803 – 30 Ebrill 1882) sy'n nodedig am ei frasluniau o fywyd trigolion Madrid sydd yn nodweddiadol o genre costumbrismo.
Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Ramón de Mesonero Romanos | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | El Curioso Parlante ![]() |
Ganwyd | 19 Gorffennaf 1803 ![]() Madrid ![]() |
Bu farw | 30 Ebrill 1882 ![]() Madrid ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Swydd | Cynghorydd ar Gyngor Madrid ![]() |
Adnabyddus am | Manual de Madrid: descripción de la corte y de la villa ![]() |
Mudiad | Costumbrismo ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cau
Ganed ym Madrid, a fe fu'n ymddiddori mewn hanes a daearyddiaeth leol ei fro ers ei fachgendod. Cyhoeddodd Manuel de Madrid yn 1931, ac yn 1932 dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar fywyd cymdeithasol y ddinas dan y ffugenw "El Curioso parlante" ar gyfer y cylchgrawn Cartas españolas. Cesglid y brasluniau hynny yn y cyfrolau Panorama matritense (1835–36). Fe'i etholwyd i'r Academi Sbaenaidd yn 1838. Cyhoeddodd ei hunangofiant Memorias de un setentón, natural y vecino de Madrid yn 1880. Bu farw ym Madrid yn 78 oed.