Wicipedia:Eginyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Erthygl fer iawn yw eginyn, sydd fel arfer yn cynnwys un paragraff yn unig. Mae awdur eginyn yn ei greu er mwyn ysgogi pobl sydd â diddordeb yn y pwnc, neu sydd â llawer o wybodaeth amdano, i ychwanegu at yr erthygl:
Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu. |
I weld pa erthyglau sydd angen eu hehangu, gwyliwch y rhestr hon.
Wrth i'r Wicipedia dyfu rydym yn creu categorïau egin mwy penodol; mae gennym ni gategori ar gyfer eginau am hanes Cymru er enghraifft. I ychwanegu erthygl at y categori eginyn hwnnw, rhowch y nodyn {{eginyn hanes Cymru}} ar ddiwedd yr erthygl. Mae'r nodiadau eginyn hyn ar gael yn barod am nifer o wledydd, e.e. {{eginyn Montenegro}} a sawl pwnc a maes, e.e. {{eginyn athroniaeth}} ac {{eginyn cerddoriaeth}}.
Cewch weld rhestr lawn o'r nodiadau egin ychwanegol hyn yma.
Ond peidiwch â phoeni'n ormodol os nad ydych yn siwr pa nodyn i'w ddefnyddio. Bydd rhywun yn siwr o sylwi ar yr erthygl newydd a'i roi yn y categori egin cywir. Y peth pwysig ydy creu'r erthygl yn y lle cyntaf!
Ewch ati felly!