![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/20040801-008-tesco.jpg/640px-20040801-008-tesco.jpg&w=640&q=50)
Rhestr o gadwyni archfarchnadoedd yn y Deyrnas Unedig
rhestr ar brosiect Wikimedia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Page Modiwl:Message box/ambox.css has no content.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/20040801-008-tesco.jpg/640px-20040801-008-tesco.jpg)
Mae hon yn rhestr o gadwyni archfarchnadoedd yn y Deyrnas Unedig. Prif werthwyr bwyd y DU yw: Tesco, Asda, Sainsbury a Morrisons. Dyma'r Pedwar Mawr, ac roedd ganddynt 73.2% o'r farchnad fwyd yn y DU yn y 12 wythnos ddaeth i ben 4 Ionawr 2015, gostyngiad o 74.1% yn 2007.[1] Mae'r siopau disgownt Aldi a Lidl wedi gweld cynnydd cyfun yn gyfran o'r farchnad o 4.8% i 8.3% dros y cyfnod hwnnw, tra cododd cyfran y groser cain Waitrose o 3.9 i 5.1%.
Archfarchnadoedd Premier, is-gwmni o Express Dairies, agorodd archfarchnad gyntaf y DU yn Streatham, De Llundain ym 1951. Siop y Co-op yn Albert Road, Southsea oedd siop hunanwasanaeth cyntaf gwledydd Prydain, a agorodd ym mis Mawrth 1948.[2]