cyfansoddwr a aned yn 1971 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a chantor o Buerto Rico yw Ricky Martin, ganwyd Enrique Martín Morales (24 Rhagfyr 1971).
Ricky Martin | |
---|---|
Ffugenw | Ricky Martin |
Ganwyd | Enrique José Martín Morales 24 Rhagfyr 1971 San Juan |
Man preswyl | Los Angeles |
Label recordio | Sony Music, Columbia Records, Sony Music Entertainment |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Sbaen |
Galwedigaeth | canwr, actor llwyfan, cyfansoddwr, model, actor teledu, ysgrifennwr |
Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, pop Llandinaidd, cyfoes R&B, pop dawns, reggae, reggaeton, cerddoriaeth America Ladin |
Priod | Dorian Popa |
Gwobr/au | Latin Recording Academy Person of the Year, Lo Nuestro Excellence Award, Grammy Award for Best Latin Pop Album, Grammy Award for Best Latin Pop Album, Latin Grammy Award for Best Male Pop Vocal Album, Latin Grammy Award for Best Pop Vocal Album, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Billboard Spirit of Hope Award |
Gwefan | http://rickymartinmusic.com/ |
Roedd Martin mewn perthynas platonaidd gyda'r cyflwynydd teledu Mecsicanaidd Rebecca de Alba am dros 14 mlynedd. Roedd y cwpl wedi siarad am ddechrau teulu gyda'i gilydd,[1][2][3] a roedd Martin wedi ystyried gofyn iddi ei briodi.[4] Yn Awst 2008, daeth Martin yn dad i ddau fachgen efaill, Matteo a Valentino, ganwyd drwy dirprwy fam.[5]
Yn dilyn llwyddiant "Livin' la Vida Loca," daeth bywyd personol Martin yn bwnc o ddiddordeb oherwydd ei nifer uchel o ddilynwyr hoyw, a gofynnwyd iddo am ei rywioldeb. Mewn cyfweliad yn Rhagfyr 2000 gyda'r Daily Mirror, gofynnwyd iddo wneud sylw am y sîon ynglŷn a'i rywioldeb ac atebodd "I don't think I should have to tell anyone if I am gay or not, or who I've slept with or not."[6] Yn 2010, mynegodd Barbara Walters ei bod yn difaru ychydig am wthio Martin i ddweud ei fod yn hoyw mewn cyfweliad yn 2000. Fe'i dyfynnwyd yn y Toronto Star yn dweud, "When I think back on it now, I feel it was an inappropriate question."[7][8] Ar 29 Mawrth 2010, cyhoeddodd Martin ei fod yn hoyw mewn neges ar ei wefan swyddogol, gan ddweud: "I am proud to say that I am a fortunate homosexual man. I am very blessed to be who I am."[9][10] Dywedodd fod "these years in silence and reflection made me stronger and reminded me that acceptance has to come from within, and that this kind of truth gives me the power to conquer emotions I didn't even know existed."[11]
Yn 2010, dywedodd Martin ei fod yn meddwl yn flynyddoedd ei fod yn ddeurywiol, gan ddweud wrth Oprah Winfrey "I felt it with a woman, I felt passion and it felt good. And I'm sure I'm not the only gay man that felt attraction towards women...Sometimes I really did fall in love with women, for many years I did."[12][13] Cyhoeddoedd ar The Oprah Winfrey Show ei fod mewn perthynas.[14] Yn 2011, wrth dderbyn Gwobr Vito Russo yn 22ain Gwobrau Cyfryngau GLAAD, diolchodd Martin yn gyhoeddus i'w gariad, Carlos González Abella, economegydd.[15][16] Daeth ei berthynas â González Abella i ben yn Ionawr 2014.[17]
Yn 2012, mewn cyfweliad gyda Spanish Vanity Fair, dywedodd Martin, "I don’t regret anything, any of the relationships I've lived. They taught me a lot, both men and women equally."[18][19] Yn 2016, dywedodd fod ganddo atyniad at fenywod a dynion ond o ran perthynas ramantaidd roedd ei ddiddordeb mewn dynion yn unig, a felly nid oedd yn gweld ei hun yn ddeurywiol. Mewn cyfweliad gyda cylchgrawn Mecsicanaidd Fama! dywedodd ei fod yn hoyw, fod dynion yn ei gyfareddu ond ei fod yn hoff o ryw mewn rhyddidd llwyr, felly mae'n agored i gael rhyw gyda menyw os oes ganddo'r awydd.[20]
Mewn cyfweliad ar Larry King Live, rhoddodd Martin ei gefnogaeth i briodas gyfunryw.[21] Gwnaeth araith yng Nghynhadledd Homoffobia y Cenhedloedd Unedig ar 12 Tachwedd 2012.[22] Yn Ebrill 2016, cychwynodd garu gyda Jwan Yosef, arlunydd Syriaidd-Swedaidd o dras Cwrdaidd ac Armenaidd.[23][24] Cyhoeddodd y cwpl ei dyweddiad ar 16 Tachwedd 2016, ar sioe Ellen DeGeneres.[25] Yn Ionawr 2018, cyhoeddodd Martin ei fod wedi priodi Yosef.[26] Ar 31 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Martin a Yosef, drwy Instagram, enedigaeth ei merch Lucía Martin-Yosef.[27]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.