Roger o Drefaldwyn, Iarll 1af Amwythig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arglwydd Normanaidd oedd Roger o Drefaldwyn, Iarll 1af Amwythig (neu Roger de Montgoméri), a elwid hefyd yn Roger Fawr ("Roger le Grand") (tua 1030 – 27 Gorffennaf 1094)[1] ac y cyfeirir ato gan haneswyr Cymreig ac eraill fel Roger o Drefaldwyn hefyd, a fu'n arglwydd Trefaldwyn (Montgoméri), vicomte Hiémois, ac arglwydd Alençon. Roedd yn un o'r arglwyddi Normanaidd cyfoethocaf a grymusaf yn Lloegr a'r Mers yn y deyrnas a greuwyd gan Wilym Gwncwerwr. Fel Iarll cyntaf Amwythig, teitl a daliodd o 1074 hyd ei farw yn 1094, bu ganddo ran flaenllaw yn ymdrechion y Normaniaid i oresgyn Cymru.
Roger o Drefaldwyn, Iarll 1af Amwythig | |
---|---|
Ganwyd | c. 1029 |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1094 Abaty Amwythig |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Normandi, Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | counselor |
Tad | Roger I de Montgommery |
Priod | Mabel de Bellême, Adélaïs du Puiset |
Plant | Robert of Bellême, 3rd Earl of Shrewsbury, Roger the Poitevin, Arnulf de Montgomery, Hugh of Montgomery, 2nd Earl of Shrewsbury, Roger III de Montgomery, Matilda de Montgomery, Sibyl of Montgomery, Philip de Montgomery |
Llinach | Montgomerie family |
Tua'r flwyddyn 1050, priododd Mabile de Bellême. Roedd ganddo diroedd helaeth yn Normandi a bu'n un o brif gapteiniaid Gwilym Gwncwerwr pan laniodd ger Hastings yn 1066; mewn canlyniad i'w ymroddiad a'i wasanaeth cafodd diroedd sylweddol yn ne a chanolbarth Lloegr gan y brenin newydd, yn cynnwys Swydd Amwythig am y ffin â Chymru.
Sefydlodd Roger ei bencadlys ar ochr Gymreig Clawdd Offa ar safle'r Hen Domen - ar gyrion tref Trefaldwyn heddiw - lle cododd castell mwnt a beili mawr a'i alw yn Montgoméri. Enwyd yr hen Sir Drefaldwyn (Montgomeryshire) ar ei ôl.[2]
Cafodd ei olynu fel Iarll Amwythig gan ei fab Hugh.