arlywydd Barbados From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd, cyfreithiwr a diplomydd o Farbados yw Sandra Prunella Mason FB GCMG DA QC (ganwyd 17 Ionawr 1949). Cafodd ei hethol gan Senedd Barbados ar 20 Hydref 2021 i ddod yn arlywydd cyntaf y wlad, a daeth yn ei swydd ar 30 Tachwedd 2021, pan beidiodd Barbados â bod yn frenhiniaeth gyfansoddiadol a daeth yn weriniaeth.
Gwleidydd, cyfreithiwr a diplomydd yw Mason sydd wedi gwasanaethu fel barnwr Uchel Lys yn Sant Lwsia a barnwr Llys Apêl yn Barbados. Hi oedd y fenyw gyntaf a dderbyniwyd i'r Bar yn Barbados. Gwasanaethodd fel cadeirydd comisiwn CARICOM i werthuso integreiddio rhanbarthol, hi oedd yr ynad cyntaf a benodwyd yn llysgennad o Barbados, a hi oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu ar Oruchaf Lys y wlad.
Cafodd Mason ei geni[1] yn Saint Philip, Barbados.[2] Ar ôl astudio yn Ysgol Gynradd St Catherine, mynychodd ysgol uwchradd yng Ngholeg y Frenhines, [3] yna dechreuodd ddysgu yn Ysgol Uwchradd y Dywysoges Margaret ym 1968.[4] Bu’n gweithio ym Manc Barclays fel clerc. Cofrestrodd Mason ym Mhrifysgol India'r Gorllewin yn Cave Hill, lle enillodd Radd Baglor Cyfreithiau.[1] Mason oedd un o raddedigion cyntaf Cyfadran y Gyfraith o PCA, Cave Hill.
Ym 1978, dechreuodd Mason weithio fel Ynad y Llys Ieuenctid a Theuluoedd. Ym 1998, cwblhaodd cwrs RIPA'r Sefydliad Brenhinol Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn Llundain ar Weinyddiaeth Farnwrol.[1] Gwasanaethodd ar Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o'i gychwyn ym 1991 hyd 1999, ac roedd yn is-gadeirydd rhwng 1993 a 1995 ac yn gadeirydd rhwng 1997 a 1999.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.