Sefydliad Russkiy Mir
Corff er hyrwyddo iaith a gwerthoedd Rwsia yn fyd-eang / From Wikipedia, the free encyclopedia
Crëwyd Sefydliad Russkiy Mir (Rwseg: Фонд "Русский мир", yn llythrennol "Sefydliad Byd Rwsia") trwy archddyfarniad gan Vladimir Putin yn 2007, fel sefydliad a noddir gan y llywodraeth gyda'r nod o hyrwyddo'r iaith Rwseg a diwylliant Rwsieg ledled y byd, a "ffurfio'r Byd Rwsia fel prosiect byd-eang",[1] yn cydweithredu ag Eglwys Uniongred Rwsia i hyrwyddo gwerthoedd sy'n herio traddodiad diwylliannol y Gorllewin.[2] Modelwyd y Sefydliad ar asiantaethau hybu diwylliant tebyg, megis y Cyngor Prydeinig a Goethe-Institut.[3] Ceir hefyd trawslythrennu Russkyi yn Russkij a Russkii.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2007 |
Sylfaenydd | Llywodraeth Rwsia |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad di-elw |
Gwefan | https://russkiymir.ru/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i sefydlwyd gan Weinyddiaeth Materion Tramor Ffederasiwn Rwsia a Gweinyddiaeth Addysg a Gwyddoniaeth Ffederasiwn Rwsia. Caiff y sefydliad ei ariannu gan y gyllideb ffederal, cyfraniadau eiddo gwirfoddol a rhoddion, a ffynonellau cyfreithiol eraill.[4]
Arwyddodd y Sefydliad gytundeb yn 2011 gyda Phrifysgol São Paulo ar gyfer codi Laboratório de Estudos Russos (LERUSS).[5][6]
Disgrifiodd rhai sylwebyddion y sefydliad fel offeryn ar gyfer taflunio pŵer meddal gwladwriaeth Rwsia.[7][2] Ers ymosodiad ymosodiad ar Wcráin gan Rwsia yn 2022, mae byd Rwsia fel cysyniad a'i offerynnau wedi bod yn gysylltiedig ag iredentiaeth Rwsiaidd (h.y. ad-ennill tiriogaeth "coll" Rwsia, sef hen Ymerodraeth Rwsia a'r Undeb Sofietaidd), imperialaeth a totalitariaeth.[8][9][10][11]