From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae sefydliad di-elw ( NPO ) neu sefydliad nid-er-elw (Saesneg: nonprofit organisation)[1] yn gorff nad yw am wneud elw.[2][3] Mae'n endid cyfreithiol a drefnir ac a weithredir ar gyfer budd cyfunol, cyhoeddus neu gymdeithasol, mewn cyferbyniad ag endid sy'n gweithredu fel busnes sy'n anelu at gynhyrchu elw i'w berchnogion.
Enghraifft o'r canlynol | ffurf gyfreithiol, math o fudiad, cangen economaidd |
---|---|
Math | sefydliad |
Y gwrthwyneb | sefydliad masnachol, elusen gwneud elw |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sefydliadau o'r math hwn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiad o beidio â dosbarthu arian: rhaid i unrhyw refeniw sy'n fwy na threuliau gael ei ymrwymo i ddiben a nodau'r sefydliad, ac ni chaniateir i'r elw hwn gael ei drosgwyddo i bartïon preifat. Ceir amrywiaeth o sefydliadau di-elw, gan gynnwys rhai sefydliadau gwleidyddol, ysgolion, cymdeithasau busnes, eglwysi, clybiau cymdeithasol, a chwmnïau cydweithredol. Gall endidau dielw ofyn am gymeradwyaeth gan lywodraethau i fod wedi'u heithrio rhag treth.
Agweddau allweddol ar sefydliadau dielw ledled y byd yw atebolrwydd, dibynadwyedd, gonestrwydd, a bod yn agored i bob person sydd wedi buddsoddi amser, arian a ffydd yn y sefydliad. Mae sefydliadau dielw yn atebol i'r rhoddwyr, sylfaenwyr, gwirfoddolwyr, derbynwyr rhaglenni, a'r gymuned. Yn ddamcaniaethol, ar gyfer cwmni dielw sy'n ceisio ariannu ei weithrediadau trwy roddion, mae hyder y cyhoedd yn ffactor bwysig yn y swm o arian y gall sefydliad dielw ei godi. Yn gyffredinol: po fwyaf y mae sefydliadau dielw'n canolbwyntio ar eu cenhadaeth, y mwyaf fydd hyder y cyhoedd. Bydd hyn yn arwain at fwy o arian i'r sefydliad.[1]
Camsyniad cyffredin am sefydliadau d-ielw yw eu bod yn cael eu rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Mae gan y mwyafrif o sefydliadau dielw staff sy'n gweithio i'r cwmni, o bosibl yn defnyddio gwirfoddolwyr i gyflawni gwasanaethau dielw o dan gyfarwyddyd y staff cyflogedig. Rhaid i sefydliadau dielw fod yn ofalus i gydbwyso'r cyflogau a delir i staff yn erbyn yr arian a delir i ddarparu gwasanaethau i fuddiolwyr (y rhai sy'n cael budd o waith y mudiad neu'r cwmni). Gall sefydliadau y mae eu treuliau cyflog yn rhy uchel o gymharu â threuliau eu rhaglen wynebu craffu manwl ee ymchwiliad treth.[4]
Yr ail gamsyniad yw efallai na all sefydliadau di-elw wneud elw. Er nad nod y sefydliadau dielw yw cynyddu elw mae'n rhaid iddynt weithredu fel busnes ariannol gyfrifol o ddydd i ddydd. Rhaid iddynt reoli eu hincwm (grantiau a rhoddion ac incwm o wasanaethau) a'u treuliau er mwyn parhau i fod yn endid ariannol hyfyw. Mae gan sefydliadau dielw y cyfrifoldeb o ganolbwyntio ar fod yn broffesiynol, yn ariannol gyfrifol, gan ddisodli hunan-les a chymhelliad elw gyda'u nodau ac amcanion.[5]
Ar y cyfan, mae sefydliadau nid-er-elw'n darparu nwyddau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu cyflenwi'n ddigonol gan y llywodraeth.[6] Mae gan NPOs amrywiaeth eang o strwythurau a dibenion.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.