Seren y Dwyrain
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymddangosodd Seren y Dwyrain gyntaf ym mis Hydref 1943, gyda T. Elwyn Griffiths, o Landybie yn olygydd. [1] Cylchgrawn Cymraeg o ddeunydd amrywiol ydoedd, ac i fod yn ddolen gyswllt rhwng sefydliadau Cymreig a'i gilydd ac i gryfhau y cysylltiad rhwng Cymru â'r bechgyn a wasanaethai yn y lluoedd arfog. Fe'i cyhoeddid yn Cairo, prifddinas yr Aifft, o 1943 hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Bu hyn yn symbyliad i sefydlu Undeb y Cymry ar Wasgar yn ddiweddarach, yn 1948.
Mae’r papur ei hun ar gael i’w ddarllen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgelloedd Prifysgolion Bangor a Chaerdydd.